Mae hefyd wedi cerdded ledled Prydain ac Ewrop ond mae ei hoff daith yn dod â hi nôl i'w milltir sgwâr ym mhentref Llansannan. Yn ogystal â golygfeydd hardd o fynyddoedd Eryri, mae ei thaith hefyd yn cwmpasu hanes yr ardal hefyd:
Llwybrau plwyf LlansannanGofynnwyd i Rhiannon Davies wneud arolwg o lwybrau plwyf Llansannan gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru yn 1995. Mae'r plwyf yn ymestyn o Henllan i Lanfair Talhaearn ac at Fynydd Hiraethog cyn belled â Llyn Alwen i'r de.
Dechreuodd y llwybr cyntaf fis Gorffennaf 1995 a cherddodd yr olaf fis Tachwedd 1996. Cerddodd 229 llwybr i gyd - 201 o hydau llwybrau troed, 22 o lwybrau merlota ac 16 BOAT, sef culffyrdd sy'n agored i bob trafnidiaeth.
Gyda help ffrindiau ddaeth i gyd-gerdded gyda hi, roedd rhaid nodi pob arwydd, camfa, giât ayb - 31 o wahanol symbolau a phob rhwystr; ffensys, gwrychoedd, teirw, cŵn peryglus, ffermwr neu berchenogion anghynnes - 28 o wahanol symbolau.
Ar y pryd roedd nifer mewn cyflwr gwael iawn, gyda gwrychoedd a weiren bigog ar eu traws, heb sôn am deirw bygythiol ac ambell dirfeddiannwr gwrthwynebus! Ond erbyn hyn mae rhwydwaith da iawn o lwybrau wedi eu harwyddo gyda chamfeydd da meddai Rhiannon Davies.
Er ei bod wedi cysegru dros flwyddyn o'i bywyd i gerdded y llwybrau hyn, mae'n teimlo iddi ddod i adnabod ei phlwyf yn dda.
"Cwynais lawr ynglŷn â'r arolwg llwybrau ac roeddwn yn hynod falch o drosglwyddo ffurflenni i'r Cyngor Cefn Gwlad a chael mwynhau cerdded heb nodi camfeydd a dringo dros ffensys a rhwygo fy nhrowsus," meddai. "Un peth rwyf wedi ei werthfawrogi ydy'r ardal lle dwi'n byw. Wnes i erioed sylweddoli mor hardd ydy'r wlad o gwmpas... Mae lleoedd fel Bodeiliog, Bryn Bod, Cae Gau, Llawr y Cwm, Ty'n y Mynydd yn golygu rhywbeth imi rŵan...
"Credaf yn gryf iawn fod yn gyfrifoldeb arnom i gadw'r llwybrau'n agored."
"Rydyn ni'n dechrau yn y Llan wrth Swyddfa'r Post a'r eglwys. Rydych chi'n stopio i ddechrau i edrych ar gofgolofn yr enwogion sydd â rhestr o enwogion lleol arni: Tudur Aled, William Salesbury, Henry Rees, Gwilym Hiraethog a Iorwerth Glan Aled.
Wedyn rydych chi'n mynd ymlaen heibio i gapel y Presbyteriaid - Capel Coffa Henry Rees - ac mae 'ne gofgolofn i Edward Parry, Bryn Bugad o flaen y capel. Fo wnaeth sefydlu'r achos Methodistaidd yn yr ardal ac roedd o'n derbyn y Diwygwyr i'w dŷ, a oedd yn drosedd, ac mi gafodd ei erlid.
Fe roddodd ddarn o dir i adeiladu capel y Methodistiaid yn Tan y Fron, pentref bach ryw dair milltir o Lansannan. Fo hefyd gyfansoddodd Caned Nef a Daear Lawr. Cafodd ei eni yn 1723 ac roedd yn hen hen hen hen daid imi!
Wedyn 'dech chi'n mynd i fyny ar hyd ffordd Abergele o'r pentref a 'dech chi'n troi i Coed Nant y Plwm lle mae na lot fawr o siafftiau hen weithfeydd plwm a ddechreuodd yno tua 1841.
Oddi yno, rydych chi'n mynd yn eich blaen ac yn dod i'r top trwy'r coed collddail ac mae na lot fawr o adar yno.
Wedyn o'r top, o ben Moel Unben, mae na olygfeydd gwych, gwych o Eryri. Hwnne ydy pinacl y tro ac rydych chi'n gweld i'r môr, mynyddoedd Eryri a Mynydd Hiraethog.
Rydych chi'n mynd ymlaen wedyn i Goed Llanfair Unben ac yn cerdded o Ddyffryn Aled i Ddyffryn Elwy, gan basio hen blasty Dyffryn Aled Dyffryn Aled, wedyn mi ddowch chi yn y man at afon Aled a cherdded ar hyd yr afon nôl i Llan a diwedd y daith.
Y golygfeydd a'r amrywiaeth sy'n ei gwneud yn un o fy hoff deithiau. Rydych chi'n dod drwy'r coed collddail wedyn yn dod i ben y foel lle mae'r golygfeydd yn wych, wedyn yn gorffen ar lan yr afon Aled."