Un o feirdd mawr olaf y traddodiad canu-caeth uchelwrol
Yng ngwaith Tudur Aled y gwelwyd eithafbwynt y traddodiad mawl yn yr Oesoedd Canol. Roedd ganddo feistrolaeth lwyr ar y gynghanedd, defnyddiodd ddelweddaeth draddodiadol a newydd fel ei gilydd, ac yn ei gerddi aeddfed gwelir personoliaeth urddasol a sensitif.
Wedi ei farw, dirywiad prysur a welwyd yn niwylliant Cymru, yn enwedig yn y grefft farddol.
Cefndir uchelwrol
Ganwyd Tudur Aled tua 1465 ym mhlwyf Llansannan yn yr hen Sir Ddinbych, a'i athro barddol, mae'n debyg, oedd ei ewythr Dafydd ab Edmwnd.
Roedd yn un o gomisiynwyr Eisteddfod Caerwys ym 1523.
Perthyn i'r uchelwyr, felly, oedd y bardd, mewn ardal a oedd yn un nodedig am Farddas, a thystia rhai o'r marwnadau a genid iddo mai dyn a wisgai'n dda ydoedd.
Ymddengys ei fod o gorff cadarn, yn farchog da ac yn fabolgampwr.
Yn ystod ei waeledd olaf cymerodd abid mynach o Urdd Sant Ffransis a bu farw tua 1525 yng Nghaerfyrddin a'i gladdu yno yng Nghwrt y Brodyr.
Ei farn amdano'i hun
Yn ôl un o'r traddodiadau a ledaenwyd amdano wedi i Tudur Aled farw, mae'r ymddiddan rhyngddo a Thomas Pennant, abad Dinas Basing.
Mewn ateb i gwestiynau'r abad, dywedodd Tudur mai Dafydd ab Edmwnd oedd y gorau ar yr awdl, Guto'r Glyn ar y cywydd mawl, a Dafydd ap Gwilym ar y cywydd serch, ond ei fod ef ei hun wedi canu awdl well na Dafydd ab Edmwnd, a chywyddau mawl a serch gwell na Guto'r Glyn a Dafydd ap Gwilym.
Cadwyd tua chant a phump ar hugain o'i gywyddau, yn eu plith oddeutu pedwar ugain a phump yn rhai mawl.
Cofnodai achau yn ei gerddi yn fwy cyson na bron neb o'i gyfnod.
Canodd nid yn unig i deuluoedd brodorol Cymreig ond hefyd i deuluoedd y Gororau.
Ond ei brif noddwyr oedd Salbriaid Lleweni ger Llansannan.
Cafodd yr Eglwys le canolog yn ei ganu, gydag o gwmpas ugain cerdd i wŷr eglwysig.
Mae Blodeugerdd Rhydychen (gol. Thomas Parry) yn cynnwys y cerddi canlynol: 'Gofyn March gan Abad Aberconwy dros Lewis ap Madog'; 'I Wiliam ap Siôn, Cwnstabl y Waun'; 'Tref Crososwallt'; 'Cywydd Cymod Hwmffre ap Hywel ap Siencyn a'i Geraint'; a 'Marwnad Siân Stradling'.
Gwelir cof-golofn i Dudur Aled, William Salesbury, ac eraill yng nghanol Llansannan.
Meic Stephens.