BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Caernarfon
Mosäic yn y Doc
Mae plant o 12 ysgol yn ardal Caernarfon wedi helpu i greu llwybr brithwaith o flaen adeilad Galeri yn Noc Fictoria.

Rhai o'r disgyblion gyda'r brithwaith ar y llawr
Rhai o'r disgyblion gyda'r artistiaid Maureen O'Kane, Andrew Bolton a Jill Evans ASE. next page
123

Pwrpas y gwaith celf ydy dathlu cysylltiad Cymru gyda'r deg gwlad newydd sy'n ymuno â'r Undeb Ewropeaidd ac mi fu'r plant yn gweithio dan arweiniad yr artistiaid Maureen O'Kane ac Andrew Bolton i baratoi'r teils ar gyfer y brithwaith sy'n adlewyrchu bywyd a diwylliant y deg gwlad newydd.

Fe fu'r plant mewn cysylltiad â disgyblion yn y ddeg gwlad i ofyn cwestiynau fel "beth yw eich blodyn cenedlaethol?" a "pha liw sydd ar eich banner chi?" er mwyn cael ysbrydoliaeth i lunio'r teils, fel rhan o'r cynllun Creu Cyfle.

Cafodd y llwybr brithwaith ei ddadorchuddio gan yr Aelod Seneddol Ewropeaidd Jill Evans ac ar ôl y seremoni, cynhaliwyd Cyngerdd Gala i ddathlu'r prosiect yn y Galeri y noson honno, dan arweiniad Catrin Finch, llywydd Creu Cyfle.



Lleol i Mi
Radio Cymru
Llyfrau


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy