BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Digwyddiadau

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Cofis yn Creu Cyfle
Mae rhai o blant Caernarfon a'r cylch wedi bod yn helpu i lawnsio prosiect newydd i gryfhau cysylltiadau diwylliannol rhwng Cymru a 10 gwlad newydd Undeb Ewrop - sef Cyprus, Gweriniaeth Tsiec, Estonia, Hwngari, Latfia, Lithwania, Malta, Gwlad Pŵyl, Slofacia a Slofenia.
Côr o blant ysgol Caernarfon yn canu
Côr o Ganolfan Gerdd Williams Matthias yn perfformio yn stiwdio'r Galeri. next page
12345678910

Fel rhan o lansiad prosiect Creu Cyfle yng nghanolfan Galeri, roedd plant o Ysgol yr Hendre, Ysgol y Gelli, Ysgol Maesincla, Ysgol Santes Helen a Chanolfan Gymunedol Noddfa, Caernarfon, yn canu fel rhan o gôr Canolfan Gerdd William Matthias.

Fe wnaethon nhw berfformio cyfieithiad o gân rhyddid y Baltig, 'Bydd Rydd, Fôr y Baltig', a ganwyd yn wreiddiol gan gadwyn o bobl yn Latfia, Lithwania ac Estonia yn 1989 i ddathlu democratiaeth.

Un o bartneriaid eraill y prosiect ydy Dawns i Bawb, cymdeithas ar gyfer dawns yn y gymuned yng ngogledd orllewin Cymru.

Ar gyfer y prosiect yma mae Grŵp Dawns Ieuenctid Gwynedd wedi bod yn gweithio gyda'r coreograffydd József Trefeli, sy'n enedigol o Hwngari, i greu'r Ddawns Ehangu.

Mae'r ddawns wedi ei dylanwadu gan ddawnsio gwerin a cherddoriaeth draddodiadol Hwngari ynghyd â choreograffi gyfoes ac mae'r cwmni'n annog pobl i ddod i'w gweld yn ei pherfformio yn Eisteddfod Eryri am 10am ddydd Mawrth yn y Stiwdio Ddawns.

Fel rhan o'r prosiect hefyd mae Cyngor Gwynedd wedi comisiynu artist i greu brithwaith yn Noc Fictoria a fydd wedi ei seilio ar argraffiadau pobl Caernarfon o Ewrop.

Cafodd gweithagerddau'r prosiect eu cynnal ar faes Eisteddfod Eryri 2005 hefyd a bydd prosiectau diwylliannol yn cael eu cynnal mewn ysgolion lleol yn ystod y flwyddyn.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Wrecsam):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.



0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy