Edith o Gaernarfon
Roeddwn i'n byw ym Manceinion ar y pryd, ond mi ddes i 'nol adref y diwrnod cynt gyda fy mab oedd yn 14. Dwi'n cofio'r holl soldiwrs druan yn eu dillad trwm a'u hetiau mawr du yn sefyll am oriau yn y tywydd braf. Dim ond cadeiriau bach oedd ganddynt ac roedd yn rhaid iddynt gadw'n llonydd am oriau.
Roedd 'na bobl yn erbyn yr arwisgiad. Dwi'n cofio nhw'n gollwng rhyw fath o fom ger Coed Alun; mae yna wastad rhai o blaid ac yn erbyn rhywbeth fel 'na. Ond roedd pawb rownd fi yn rhy brysur yn cadw'n effro ar ôl codi mor gynnar - doedd 'na ddim lot o wrthdaro.
Roedd yn rhaid i mi adael i ddal y trên yn ôl i Fanceinion am 4.30 y pnawn a dwi'n cofio gweld y rhai posh oedd wedi bod tu fewn i'r castell yn cario'r cushions roeddent wedi brynu i eistedd arnynt. Mi wnes i eistedd ar y wal, ac wedyn sefyll arni i gael gwell golwg o'r orymdaith!
Ddaru Prince Charles ddod yn ôl i Gaernarfon ychydig yn ôl, ac mi wnes i ddweud wrtho, 'I got up at five in the morning to see your investiture'. 'My goodness', dywedodd o, 'you must have been a very brave lady to come that time of the morning.'
Helen o Gaernarfon
Roeddwn i'n 11 oed yn 1969. Dwi'n cofio dod i Gaernarfon yn fuan, fuan yn y bore efo pawb arall o ysgol gynradd Fron i wylio'r orymdaith. Ddaru ni landio rywle wrth ymyl banc y Natwest gyda'r fflagiau roeddem wedi ei wneud ein hunain.
Nerys o Lanwnda
Roeddwn i yn y gwaith, yn swyddfa Issac Parry, yn edrych allan ar yr orymdaith trwy'r ffenestr.
Roedd 'na blismyn pob man, ac roeddent wedi gwario lot ar beintio a thacluso Gaernarfon. Ddaru nhw wneud lot o waith ar y castell hefyd, er doedd neb yn cael mynd mewn.
Roedd lot o bobl yn anhapus adeg yr arwisgiad ar ôl yr holl wario dros un diwrnod. Biti sa Prince Charles yn cofio fod Gaernarfon dal yma - dydy o ddim wedi gwneud llawer o les i Gaernarfon dros y blynyddoedd. Dydy o ddim gwahaniaeth gen i os daw Prince William yma pan ddaw ei dro fo. Does gen i ddim lot i ddweud wrth y teulu.
Mae pethau wedi newid ers y 60au - byswn i ddim yn codi'n fore i'w weld o eto.
Dewi o Landudno
Roeddwn yn aelod o'r Gwarchodlu Cymreig i lawr yn Windsor yn 1969, a chawsom orchmynion i ddod i fyny i Gaernarfon gyda gweddill y gatrawd i warchod y teulu brenhinol yn ystod yr arwisgiad. Ddaru ni ddod lawr ychydig o ddiwrnodau ymlaen llaw ac aros mewn gwersyll ar ochr arall Caernarfon. Roeddem yn cael mynd i mewn i'r dref gyda'r nos, mewn grwpiau bach, er roeddem o dan yr argraff eu bod wedi codi pris y cwrw'r dref dros wythnos yr arwisgiad!
Dwi'n meddwl ddaru Tywysog Charles gyrraedd Caernarfon o'r môr; ddaru ni warchod y ffordd o'r cei i fyny i'r castell. Fy swydd i oedd sefyll yna, rhoi'r saliwt brenhinol wrth iddynt basio, yna aros iddynt ddychwelyd. Roeddem yna am ryw dair awr, er nid oedd yn rhaid i ni sefyll yn stond am yr holl amser - peth da, gan ei fod yn ddiwrnod cynnes.
Dwi ddim yn cofio llawer o helynt ar y diwrnod. Roedd pobl wedi dod o bobman i weld yr orymdaith ac 'roedd yna lot o ddathlu.
Er i mi fod yn aelod o'r fyddin, nid oeddwn byth yn frenhinwr, ond roeddwn yn falch i chwarae fy rhan ar y diwrnod.
Yn ôl i'r cychwyn.