Dyma rai o wrandawyr Gwilym Owen ar Radio Cymru yn cofio'r diwrnod mawr.
Y cyn-plismon Elfyn Williams o Ddeganwy yn sôn am gyfarfod y cwîn mewn cyrlers.
Gwrandewch ar Elfyn.
William Parry o Borthmadog a'i hanes o orfod aros tan oriau man y bore i orffen paentio'r castell.
Gwrandewch ar William.
Tom Jones, oedd yn gweithio yn ffatri Ferodo, ger Caernarfon, ar y pryd, yn sôn am ymweliad hir y 'Special Branch' i gartref ei rieni.
Gwrandewch ar Tom
Dyma ragor o atgofion rhai o drigolion y dref o'r diwrnod hanesyddol yma.
Beryl o Fangor
Mi wnes i ddeffro'r plant am 4.30 y bore a mynd a nhw i'r Faenol i weld nhw'n ymarfer gyda'r ceffylau cyn diwrnod yr arwisgiad. Roedd y plant wedi ecseitio i weld y ceffylau a'r cerbydau a'r milwyr, i gyd wedi gwisgo fyny.
Aeth fy ngŵr a fy mab, oedd yn bedwar yn 1969, i sefyll ar bont Dinorwig i wylio'r orymdaith yn mynd o'r Faenol i Gaernarfon ar y diwrnod mawr.
Mi es i a fy mhlentyn arall i'r dre a dwi'n cofio clywed rhyw sŵn fel saethu a phawb yn siarad amdano, er nes i byth ddarganfod beth oedd o.
Naomi Gwilym o'r Nebo
Ddaru nhw dacluso pob man. Dwi'n cofio pawb yn cael potyn o baent am ddim i wneud eu tai yn hardd i gyd!
Roedd hi'n ddiwrnod bendigedig ac mi roedd pob man yn llawn o bobl. Roedd rhai wedi bod yma trwy'r nos, yn cysgodi yn eu bagiau cysgu ar y strydoedd i gael lle da i wylio popeth.
Roedd 'na lot o fwrlwm ac roedd yn rhywbeth nad oeddem wedi weld o'r blaen - y ceffylau, a'r cerbydau a'r frenhines. Nid ydym wedi gweld dim o'r fath yn y dref byth wedyn. Roeddwn i yn falch o fod yn rhan o hanes. Nid oeddwn yn gweld dim o'i le efo'r arwisgiad yn dod i Gaernarfon.
Elwyn o Bwllheli
Roedd yna ddrwgdeimlad tuag at yr arwisgiad. Roedd rhan fwyaf o fois Gaernarfon yn perthyn i Blaid Cymru a ddaru nhw hel pawb allan o'r dref am ddiwrnod yr arwisgiad cyn eu gadael yn rhydd i ddod 'nôl y diwrnod wedyn. I stopio nhw rhag codi twrw a neud aflonyddwch mae'n rhaid.
Dwi'n cofio ddaru un hogyn bach oedd yma o Loegr efo'i deulu golli ei goes pan ddaru fom chwythu fyny yn un o strydoedd Caernarfon. Cafodd boi arall ei ladd ar y rheilffordd ochrau Abergele wrth i'r trên brenhinol dod o Lundain, hefyd. Roeddwn i'n gweithio yn Llundain ar y pryd ac roedd y Saeson yn teimlo'n eithaf giami yn erbyn y Cymry.
Roedd rhai yn meddwl fod o'n peth da, eraill ddim. Rŵan, mae'n bosib cyfri ar un law faint o weithiau mae'r teulu brenhinol wedi bod yma ers 1969.
Frank o Gaernarfon
Roedd 'na Tarmac coch ar y stryd, i wneud o'n fwy tebyg i'r Mall yn Llundain, mae'n rhaid. Ond sbïwch rownd a gwelwch stad y lle heddiw - doedd gwella'r lle ar gyfer yr arwisgiad wedi gwneud dim.
Rhagor o straeon.