"Mae eglwys plwyf Caergybi wedi ei hadeiladu o fewn hen gaer Rufeinig - mae 'na olion waliau Rhufeinig o amgylch Mynydd Tŵr."Mae'n bosib eu bod nhw wedi adeiladu'r gaer i warchod y mwynau copr yn Amlwch neu i edrych ar ôl y 'farro', sef yr hen oleudy wnaethon nhw ei ddarganfod ar ben y mynydd. Mi fydden nhw wedi ei ddefnyddio i helpu'r llongau i mewn i'r harbwr - ond efo tân, dim trydan, yr adeg honno wrth gwrs!
"Roedd gan Sant Cybi gell o fewn hen gaer y Rhufeiniaid yn 540OC. Offeiriad o Lydaw oedd o, wedi bod yn crwydro'r wlad cyn cyrraedd Caergybi.
"Roedd gan y Rhufeiniad hen gapel ar y mynydd, rhwng North Stack ac Ynys Lawd, sef Eglwys Llochwydd. Ddaru'r hen Frank Bell fynd â mi draw yno flynyddoedd yn ôl, ond dim ond 'chydig o gerrig mawr oedd ar ôl. Roedd sôn fod delw aur o ferch heb freichiau wedi ei chladdu o dan yr allor, ond efallai mai dim ond chwedl ydy hynny.
"Roedd 'na hen draddodiad ar ddiwrnod Sant Cybi, sef 5 Tachwedd, bod pobl ifanc y plwyf yn gadael Eglwys Llochwydd ac yn dilyn llwybr i lawr y clogwyn at y môr. Ar lan y môr roedd 'na ffynnon, ac mi fyddent nhw'n cymryd llond cegaid o ddŵr a llond llaw o dywod ac yn mynd â fo i fyny nôl i'w osod ar allor yr eglwys.
"Ond pan wnes i drïo dringo i lawr y clogwyn roedd yn rhaid i mi ddefnyddio rhaffau a ballu - roedd yn beryglus iawn felly dwi ddim yn siŵr sut ddaru nhw allu cyrraedd lan y môr heb offer dringo."
Mae'r enw Turkey Shore, sef yr enw ar y ffordd sy'n arwain at y porthladd - Lôn Traeth Dyfrgi yn Gymraeg, wedi creu dipyn o ddifyrrwch dros y blynyddoedd. Mae Ken Griffiths yn cofio'r esboniad a gafodd o am yr enw.
"Yn 1951 wrth gael cinio un diwrnod yn yr iard longau, mi ddaru un o'r hogiau ddweud: 'Dwi newydd weld llygoden fawr yn 'stafell injan y llong.'
"Mi ddywedodd rhywun arall: 'Da chi'n cofio'r llygoden fawr wnaethon ni ei lladd ar ffordd Turkey Shore? A mi welson ni wedyn mai dyfrgi oedd o!'
"Mae'n rhaid bod dyfrgwn yn byw ger y môr yr adeg honno.
"A dyma hen foi arall yn dechrau sôn sut cafodd ffordd Turkey Shore ei enw. Yn y 19fed ganrif doedd hi ddim yn ffasiynol i siarad Cymraeg ymysg yr uchelwyr. Felly pan ddaru nhw ddechrau enwi'r strydoedd mi ddaru nhw alw'r ffordd yn Turkey Shore yn lle Lôn Traeth Dyfrgi - sy'n swnio fel twrci i'r clust Saesnig.
"Alla'i ddim ddychmygu twrci yn rhedeg lawr y ffordd yng Nghaergybi chwaith!"
Ymlaen i atgofion am yr iard longau