Ken Griffiths:
"Yn y 50au a'r 60au roedd yn lle prysur yma. Roedd 'na dry dock British Rail yn trin llongau oedd yn mynd i Iwerddon a Ffrainc ac ymhellach.
"Roedd dros 5,000 o bobl yn gweithio yno - yn y gweithdai gosod, gweithdai boilers a chopr, y plymars, y seiri a'r trydanwyr. Mi ro'n i'n cael fy nhalu £1.33 yr wythnos fel prentis, ac roedd yn rhaid i mi brynu fy overalls, dillad tywydd drwg, offer a llyfrau i'r coleg allan o hynny.
"Adeg y rhyfel, mi ddaru'r llywodraeth gymryd drosodd llongau'r rheilffordd i fod yn llongau Merchant. Roedd yr HMS Tara, sef yr hen Hibernia, ar diwti ym Môr y Canoldir pan gafodd ei dal gan un o llongau tanfor yr Almaen. Gyda llaw - Tara oedd yr hen enw ar Iwerddon, cyn i'r Rhufeiniaid enwi'r wlad yn Hibernia.
"Mi wnaethon nhw lanio'r Tara ar arfordir Anialwch Arabia, ac roedd y criw o fois o Gaergybi yn garcharorion am rhyw 33 diwrnod - heb fwyd na dŵr. Roedd yn rhaid iddyn nhw fyw ar bryfaid a 'slygs' - unrhyw beth roedden nhw'n gallu ei ddal a'i fwyta.
"Mi gawson nhw eu hachub o'r diwedd gan Ddug Westminster yn gyrru car arfog Rolls Royce dros yr anialwch i'w hachub nhw. Dyma'r tro cyntaf i neb yrru'r fath gar."
Elinor Jones:
"Roedd fy ngŵr, William Glyn Jones, yn gwneud boilers yn iard longau British Rail.
"Pan gafodd yr iard ei chau, dwi'n cofio fo'n dod adra, a theimlo'n arw fod yr iard wedi cau ac mi roddodd ei holl galon i mewn i gerdd - The End of an Era, sydd i'w gweld yn Amgueddfa Forwrol y dre.
"Mae'n sôn am y gwahanol grefftwyr oedd yno, fel y seiri, trydanwyr a gosodwyr boilers ac fel roedden nhw'n gweithio oriau mawr i gael y llongau allan. Roedden nhw'n brysur ofnadwy yno ac yn gwneud gwaith da."
Ken Gray:
"Mi ddaru nhw enwi'r Cambria ar ôl Cymru, Hibernia ar ôl yr Iwerddon, Scotia ar ôl yr Alban a'r Anglia ar ôl Lloegr - enwau'r Rhufeiniaid ar y gwledydd yma."
Ymlaen i darddiad enwau llefydd Caergybi