Dwi wedi bod yn gogydd am flynyddoedd, ond diolch i'r BBC dwi'n dangos bwyd Cymreig dros y byd yn llawn amser rŵan. Mi wnes i roi hysbys yn y papur fy mod wedi agor bwyty newydd ym Mhwllheli a gwelodd Hywel Gwynfryn hwnnw a dod acw i recordio deuddeg rysáit ar gyfer y radio.
Dwi ddim yn rhedeg y bwyty erbyn hyn gan fy mod yn gweithio ar y teledu ac wedi bod yn mynd rownd y byd yn hyrwyddo bwyd Cymreig. Es i Awstralia am chwe wythnos yn ddiweddar a choginio ar gyfer côr meibion Cymraeg Melbourne. Mi wnes i lob sgows gyda thwist Awstralaidd - defnyddio cig cangarŵ! Roedd o'n fendigedig, gyda bach o garlleg a chorshet hefyd! Nid oes rhaid defnyddio'r tatws a moron arferol wrth wneud o. Os byddai'n gwneud lob sgows adref, mi fydda'i wastad yn defnyddio hanner cig oen a hanner cig eidion, hwnnw yw'r un gorau. Fy hoff rysáit Cymreig yw cinio dydd Sul gyda chig oen. Y tip mwyaf yw peidio a gor-coginio cig. Mae rhai pobl - a fy ngwraig i yn un - ddim yn hoffi'r cig yn binc. Unwaith, mi wnes i roi cig bach yn binc ar ei phlant a'i guddio gyda grafi a dywedodd ei bod yn fendigedig - byse hi heb ei fwyta os fysai wedi gweld y cig! Un o'r bwydydd dwi wedi dod i hoffi eleni yw tatws melys. Torrwch nhw yn eu hanner, gan adael y crwyn ymlaen, brwsio nhw gydag olew a'i gosod ar y barbiciw. Pan mae'r burgars neu'r selsig yn barod, mi fydd y tasan felys yn barod ac yn fendigedig hefyd. Beth am drio carbonara selsig...
 |