| Mae disgyblion o Ysgol Talysarn ac Ysgol Baladeulyn wedi eu gwahodd i gaffi cymunedol Cegin yr Injan Fach yng Nghanolfan Talysarn i ddathlu a dysgu sut i wneud crempogau ar Chwefror 4 a 5 (Dydd Mawrth Ynyd) 2008.
Mae'r Gegin wedi bod yn gweithio gyda'r ysgolion fel rhan o brosiect Cross Cooking, cynllun traws-Ewropeaidd i gasglu ryseitiau traddodiadol mewn pum gwlad yn Ewrop, gan gynnwys Cymru.
Fel rhan o'r prosiect trefnodd Cegin yr Injan Fach sesiynau fis Mai diwethaf rhwng yr ysgolion a Chlwb Henoed yr ardal, Clwb Silyn, i fwynhau cinio a throsglwyddo gwybodaeth am sut roedd neiniau a theidiau'r plant yn bwyta, a bu criw Lleol draw yno i weld beth oedd yn digwydd. Ond yn y ddwy sesiwn hon bydd y plant yn cael cyfle i weld sut i wneud crempogau, ac yn paratoi llenwadau sawrus a melys iddynt.
"Dros y pythefnos diwethaf dwi wedi bod yn Ysgol Talysarn ac Ysgol Baladeulyn, i drafod coginio gyda'r plant, a'u helpu i ddeall risetiau," meddai Ben Gregory, sy'n ymwneud â phrosiect y Gegin. "Bydd y plant yn dod i helpu paratoi'r bwyd, ond fel rhan o'u gwaith cartref, mae'r plant wedi mynd adre i ofyn i'w neiniau a'i teidiau, a'i mamau a'i tadau, beth allant gofio bwyta pan yn ifanc." Fel rhan o'r diwrnod, bydd y plant yn cael ffedog sydd wedi cael ei gwneud yn arbennig ar gyfer y sesiynau. Traddodiadau diwrnod crempog
 |