BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Biwmares
Hen gwrt BiwmaresDrama yn y llys
Pwy sydd am fynd nôl mewn hanes i brofi achos llys o'r 1600au? Dyma Pat West o wasanaethau addysg Ynys Môn i roi blas ar y mynd a'r dod yng nghwrt Biwmares.

"Mae Biwmares wedi bod yn bwysig erioed fel canolfan gyfreithiol, o'r adeg y cafodd y castell ei adeiladu.

"Cafodd y cwrt ei adeiladu yn 1614, felly mae'n un o'r rhai hynaf yn y wlad. Dim ond pump o'i fath sydd ym Mhrydain, dwi'n meddwl.

"Byddai'r llys yn cynnal Sesiwn Chwarter, pan fyddai'r ynadon yn clywed troseddau dair gwaith y flwyddyn. Byddai hefyd y petty sessions - pobl yn mynd o flaen eu gwell oherwydd troseddau fel meddwi. Byddai'r barnwr yn bresennol adeg y Great Sessions pan fyddai'n eistedd i glywed yr achosion mawr pwysig o flaen rheithgor o ddeuddeg.

"Roedd yr adeilad yn llys ynadon tan 1996 ond mae'n amgueddfa rŵan ac yn cynnig cyfle i bobl weld y newidiadau mewn trosedd a chosb drwy'r canrifoedd. Er iddynt ymestyn yr adeilad dros y blynyddoedd dydy o heb newid llawer ers iddo agor ac mae'n bosib felly cael blas ar sut byddai pobl wedi clywed achosion ganrifoedd yn ôl.

"Mae'n gwrt eithaf unigryw gan fod y rheithgor yn eistedd yn uwch na'r barnwr - fel arfer, fo yw'r uchaf yn y cwrt gan mai fo ydy'r pwysicaf. Mae 'na reiliau mawr rhwng seddi'r cyhoedd a'r llys - roedd achosion yn bethau reit swnllyd yn y gorffennol. Y tirfeddianwyr oedd yn creu'r rheolau a'r bobl gyffredin oedd yn y cwrt am eu yorri - fel bechgyn ifanc yn cael eu dedfrydu am ddwyn bwyd am eu bod yn llwgu - felly roedd 'na lot o weiddi a sŵn wrth gynnal achos.

"Byddai'r dedfrydau'n eithaf llym hefyd. Cyn i bobl ddechrau meddwl yn well am sut i drin troseddwyr, mi fyddent yn dilyn y bloody code o 1700. Os nad oedd arian i dalu dyled, byddai'r troseddwr yn cael ei gosbi'n llym - yn cael eu chwipio, eu rhoi yn y stocs neu gael eu brandio ar y llawr am ddwyn. Byddai popeth yn gyhoeddus - y nod oedd cosbi nid gwella pobl.

"Dwi'n helpu yn y llys gydag ymweliadau plant ysgol. Da ni'n cynnal ffug-achosion gyda phawb yn chwarae rhan. Mae'r plant yn mwynhau cael blas o fywyd yn y cwrt a'r carchar.

"Mae 'na actorion yn chwarae rhannau cymeriadau yn y cwrt a'r carchar yn ystod yr haf. Da chi'n cael eich tynnu mewn i'r darlun o dywyd ar wahanol lefelau yn y carchar - cipolwg ar fywydau pobl dros y canrifoedd. Dwi wedi gweld pobl yn actio a'r cyhoedd ddim cweit yn siŵr sut i gymryd be sy'n digwydd ond maen nhw'n dod i arfer ac yn mwynhau.

"Mae'r cyhoedd hefyd yn gallu mynd ar daith sain o amgylch y cwrt, gan wrando ar achos lladron Crigyll Sir Fôn. Achos am gang oedd wedi gwneud i long, y Lovegood and Betty dorri'n ddarnau ar y creigiau er mwyn dwyn ei chargo. Roedd yr heddlu wedi bod ar eu holau am flynyddoedd ond roedd y barnwr yn feddw gaib trwy'r achos ac mi adawodd iddyn nhw fynd yn rhydd!

"Un o'r achosion mwyaf enwog oedd pan gafodd Richard Rowlands ei ddedfrydu i farwolaeth am ladd ei dad yng nghyfraith yn 1862. Ddaru o wadu ei fod wedi ei ladd tan y funud olaf a chyn cael ei grogi mi roddodd felltith ar gloc yr eglwys. Yn ôl y sôn, fe stopiodd y cloc, ac ni ddywedodd yr amser cywir byth eto."

Barod am sbel yn y carchar?

Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.


Lleol i Mi
Radio Cymru
Llyfrau


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy