"Mae'r carchar yn eithaf unigryw. Cafodd ei adeiladu gan gwmni Hanson yn 1829 fel enghraifft o garchar Fictoraidd delfrydol.
"Dyma'r unig garchar yn y wlad gydag enghraifft o droell ddŵr wreiddiol. Byddent yn rhoi gwaith dibwys i'r carcharion ei wneud, fel troi'r droell ddeng mil o weithiau mewn diwrnod. Roedd fel peiriant stepio yn y gampfa heddiw - fe fyddai chwe charcharor yn troedio arno drwy'r dydd, yn pwmpio dŵr i fyny i'r tanciau yn nho'r carchar.
"Roedd pob math o bobl yn y carchar - yn ddynion, merched efo'u babis ac yn blant. Yr unig gell efo lle tân a ffenestr oedd y comdemned cell - roeddent yn cael y gorau cyn cael eu lladd!
 "Nid oedd neb yn aros yn y carchar am fwy 'na saith mlynedd. Doedd dim dedfryd oes fel sydd heddiw - roeddent naill ai'n cael eu lladd neu yn cael ei hanfon i ffwrdd i Awstralia.
"Ar ôl i'r carchar gau tua diwedd y 19eg ganrif, roedd yn swyddfa heddlu am flynyddoedd - yn enwedig i ddelio efo'r bobl wnaeth geisio dianc i Iwerddon yn ystod y rhyfeloedd i arbed mynd i'r fyddin. Byddai'r heddlu yn mynd ar eu holau ac yn eu cadw yng ngharchar Biwmares.
"Yna cafodd ei ddefnyddio fel clinig plant cyn dod yn amgueddfa.
"Mae 'na awyrgylch arbennig i'r carchar - mae'n oer, hyd yn oed yn yr haf." Gallwch ffonio'r carchar am fwy o wybodaeth ar 01248 811691 neu ewch i treftadaethmon.org
 |