BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Abermaw
Nansi Dedwydd RobertsBywyd glan y môr y Bermo
Eisteddfota, tripiau trên a mulod ar y traeth - dyma fwy atgofion Nansi Dedwydd Roberts o fywyd yn y Bermo pan roedd yn ifanc.

"Cyn y rhyfel, roedd Y Bermo yn seaside resort hen ffasiwn. Roedd gennym ni Punch and Judy gyda Harry Kirk a mulod yn mynd i fyny ac i lawr y traeth - 'Plîs mam, ga i fara i fynd i fwydo'r mulod?' - a'u dilyn nhw a Huw Jones y Mulod adref.

Mi fyddai'r hen foi arall 'ma yn sefyll ar y stryd gyda chap am ei ben gyda 'Guide to Cader' arno. Byddai'n mynd â phobl i fyny Cader Idris am dro.

Dawns clwb celfyddydau Bermo Dwi'n cofio'r concert party yn dod yma bob blwyddyn yng ngofal Bert Stanley a'i wraig. Byddent yn adeiladu llwyfan mawr ar y prom ac roedd yna ganu, comedi a dancing girls. Roeddem hefyd yn cynnal cyngherddau yn y Concert Hall fel rhan o glwb celfyddydau y Bermo, adeilad mawr pren oedd ger lle mae ffair Las Vegas rŵan.

Roedd yna hefyd dripiau cwch o'r cei yn mynd draw i Benmaenpŵl ac yn ôl ac roedd yna dau garej - White Garage a Green Garage - y ddau yn cynnig tripiau mewn siarabang draw i Eryri a'r Wyddfa.

Byddai pawb ran fwyaf yn dod i'r Bermo ar y trên - rhai gyda deg cerbyd arnynt! Byddent yn gollwng pobl yn y stesion a dyna nhw, fel chwain yn crwydro dros y Bermo.

Ond ar ddiwedd yr haf, byddai pobl busnes Bermo yn mynd yn ôl ar y trên draw i Lerpwl. Ar ôl gweithio'n brysur drwy'r gwyliau, roedd yn treat i bawb cael diwrnod i ffwrdd - y dynion yn mynd i gêm bêl-droed a'r merched i siopa. Yna byddai pawb yn cyfarfod i fynd i weld sioe yn y theatr cyn landio adref am un y bore.

Y Bermo yn y 1930au Roedd yna gymdeithas Gymreig gryf hefyd.

Roedd 'na sawl eisteddfod yn y Bermo. Yr eisteddfod fach, sef cyfarfod bach yn y capel i'r bobl leol. Dwi'n cofio cael tair ceiniog am ennill cystadleuaeth canu - roedd yn ffordd wych i'r plant hel pres poced.

Y step nesaf oedd Eisteddfod yr Urdd, gyda phawb yn dysgu penillion neu gân i'r eisteddfod cylch, sir a'r un mawr, y genedlaethol. Dwi'n cofio cael fy ngyrru at Lewis Williams am hyfforddiant perfformio gan mam - roedd hi'n ei gymryd i gyd yn 'seriws' iawn.

Yna, roedd eisteddfod y County School, gydag un o'r seniors yn cael eu cadeirio a phopeth. Roedd pawb yn ei gymryd yn 'seriws' iawn.

Ond yr eisteddfod bwysicaf un oedd Eisteddfod Pasg y Bermo, wastad ar ddydd Llun y Pasg. Mi fyddai cantorion o ledled y sir yn dod ac roedd y cystadlu yn parhau tan oriau mân y bore. Cynhaliwyd yr eisteddfod yma yn yr hen bafiliwn, lle mae clwb nos Sand Dancer rŵan. Roedd yn orlawn ac roedd pawb bron o safon broffesiynol.

Roedd yna sawl côr yn y Bermo hefyd. Côr Dr Heath, Sais o'r dref oedd yn gerddor a chyfansoddwr gwych. Roedd gan gigydd lleol, Lewis Williams, gôr hefyd, yn ogystal ag un i'r plant a chôr meibion. Roedd yn lle cerddorol iawn.

Mi fyddai Telynor Mawddwy yn ein hyfforddi ni'r plant ifanc ar sut i ganu penillion. Roedd Telynor Mawddwy, sef Dafydd Roberts, yn wreiddiol o Ddinas Mawddwy, yn hollol ddall. Collodd ei olwg yn blentyn ond dysgodd i chwarae'r delyn a chanu penillion yn ifanc ar roedd yn wych.

Byddai hefyd yn chwarae ei delyn i lawr ger y traeth i'r ymwelwyr yn yr haf. Roedd Bermo mor lwcus i'w gael o yn ein plith."

Nôl i atgofion Nansi am gyfnod y rhyfel yn y Bermo


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.


Lleol i Mi
Radio Cymru
Ffilmiau


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy