BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Abermaw
Nansi Dedwydd RobertsRhyfel a'r Bermo
Pa effaith gafodd yr Ail Ryfel Byd ar y Bermo? Dyma atgofion Nansi Dedwydd Roberts o'r dref yn ystod y cyfnod cythryblus hwnnw.

"Mi ges i fy ngeni yng Nghaerdydd, ond mi ddes yn ôl i'r Bermo pan roeddwn yn fach iawn. Mi gafodd dad swydd ar reilffordd y Cambrian, ac felly fa'ma dwi wedi bod erioed.

Roeddwn yn ferch ifanc adeg y rhyfel. Y peth cyntaf i daro Bermo oedd yr efaciwîs. Ddaru nhw yrru lot ohonynt o ysgolion Lerpwl, a dyna nhw'n landio yn y Bermo gyda'r athrawon ac yn cael aros gyda theuluoedd yma.

Yn hwyrach ymlaen, daeth lot o efaciwîs gyda'u mamau, gan fod y rhyfel yn dal i hitio Lerpwl yn ddrwg. Roedd rhai yn dlawd iawn, ac roedd yna lanast mawr efo nhw yma!

Wedyn mi ddaru nhw yrru soldiwrs o Dunkirk i Bermo. Dwi'n cofio eu gweld nhw'n landio yn Bermo - roedd rhai jest mewn crys a thrywsus gan fod yr evacuation wedi digwydd mor gyflym yna ... Roedden nhw'n landio efo trên sbesial yn Bermo a dwi'n cofio eu gweld nhw'n cerdded i lawr y stryd ... roedden nhw wedi eu rhoi i aros yn y tai yma ... roedd golwg mawr arnyn nhw, doedden nhw bron methu cerdded o'r stesion i lawr i'r prom.

Roedd rhai yn cael nightmares ofnadwy yng nghanol y nos - yn rhedeg allan o'u bedrooms yn gweiddi a sgrechian ar hyd bob man, roedd o wedi effeithio gymaint arnyn nhw - roedd o yn low point...

Y WRVS yn y BermoWyddoch chi be, dwi ddim yn meddwl bod 'run ohonon ni'n meddwl ein bod ni'n mynd i golli'r rhyfel, ond roedd 'na low point! Yna, ar ôl y Pioneer Core, mi gawson ni'r Officers Training Unit. Roedden nhw'n trênio yr Infantry yn Bermo, wedyn roedden ni'n cael hogiau reit dda yr amsar hynny ac roedd y rheini yn aros efo ni tan ddiwedd y rhyfel... Ac roeddem yn lwcus mewn ffordd achos roedd rhaid i'r hogiau yma fihafio. D'udwch eu bod nhw'n chwil neu bod rhywbeth yn mynd yn 'rong' yna 'Return To Unit' - RTU - fysa hi .... wedyn roedd yr hogiau yma yn bihafio eu hunain yn iawn. Roeddach chi'n cyfarfod hogiau da!"

Byw ar lan y môr...

Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.


Lleol i Mi
Radio Cymru
Ffilmiau


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy