"Fel llawer o gymdeithasau eraill, bu i Ryfel Mawr 1914-18 ddweud ar yr achos, a bu lleihad yn yr aelodaeth. Ond erbyn 1920 roedd 347 o oedolion a 100 o blant yn dod i'r capel ac yn y flwyddyn ddilynol bu ychydig o gynnydd ond er hyn dyma ddechreuad y dirywiad yn yr aelodaeth yn gyffredinol.
Bu i Gwynoro Davies wasanaethu Caersalem a'r dref gyda chryfder a doethineb, bu hefyd yn gadeirydd Cyngor y Dref am flynyddoedd ac fel ffrind i Lloyd George, cafodd wahoddiad i ddarlithio yn yr America. Roedd hefyd ganddo ddiddordeb mewn cerddoriaeth ac roedd ganddo syniadau pur fodem i'w gyfnod. Cafodd lawer o alwadau i weinidogaethu mewn mannau pwysig ond yr un oedd yr ateb, 'Yr unig Gaersalem a fuasai yn mynd â fo o dref Caersalem y Bermo oedd y Caersalem uwchben.'
Bu i'r Parchg. E.G. Jones ddod yn weinidog i Gaersalem yn 1935 a nifer yr aelodau oedd rhyw 250. Mewn erthygl ugain mlynedd ymhellach cyfeiriodd bod yr aelodaeth wedi mynd i lawr o gant ac yr oedd ond wedi derbyn tri theulu yn aelodau newydd a phan orffennodd yn 1960 roedd yr aelodaeth i lawr i 160.
Yn 1961 cafodd y Parchedig Norman Jones alwad i Gaersalem a Christ Church. Dyma cyfnod yr efengylwr ond yn 1965 bu iddo ymddiswyddo a chymered Eglwys i'w weinidogaethu yng Nghanada.
Felly, yn 1966 daeth y Parchedig W.H. Pritchard atom fel gweinidog y ddwy eglwys. Yn yr America roedd pan gafodd yr alwad i'r Bermo - cafodd ei wahodd heb ei weld na'i glywed yn pregethu, ond aeth popeth yn ffafriol.
Yn ystod ei gyfnod bu i Eglwys Park Road gau a daeth yr aelodau yn ôl i Gaersalem. Bu yn weinidog am chwe blynedd cyn iddo gael galwad i eglwys ym Mhontarddulais. Mae ffrwyth ei waith yn aros o hyd. Erbyn heddiw ef yw Llywydd y Gymdeithasfa'r Gogledd.
Yn 1973 bu i'r ofalaeth rhoi galwad i'r Parchedig R.W. Jones o'r Parc, Bala. Bu yn weinidog ar yr eglwysi am dros ugain mlynedd. Yn ystod ei gyfnod bu rhaid i Gaersalem wynebu sialens wedi ymddangos dry rot yn yr adeilad ac ar ôl gryn bryder fe benderfynodd yr Eglwys i gau Caersalem a chynnal y gwasanethau yn Christ Church. Mewn effaith roedd y fam yn mynd i fyw gyda'i merch.
Mae llawer o ddiolch i R.W. Jones am ei waith yn y cyfnod yna. Roedd ei ymadawiaeth i Bow Street yng nghylch Aberystwyth yn ergyd drom ar ôl gweinidogaeth mor hir.
Bu i Gaersalem ddechrau gwasanaethu yn Christ Church yn y flwyddyn 1983 a dyna mewn realiti cyfnod y dirywiad. Mae'r aelodaeth i lawr i 34, dim plant, un gwasanaeth yn unig ar y Sul a dim cyfarfodydd yn ystod yr wythnos. Nid yw'r dyfodol yn ddisglair.
A oes gwell dyfodol i ddod? Gobeithiwn hynny, mae ein ffydd yn gryf a thrwy weddi mai unrhyw beth yn bosib; gallwn efelychu'r hen dadau a diolch hefyd iddynt a'r saith gweinidog ar 45 o flaenoriaid a gadwodd ddrysau Caersalem yn agored i bawb."
Les Darbyshire
Nôl ddechrau'r erthygl