"Mae yn bosib rhannu hanes Capel Caersalem i bedwar cyfnod a phob cyfnod yn berthnasol ag adeilad arbennig. Gellir galw'r cyfnod cyntaf fel cyfnod o lunio a pharatoi, yr ail fel cyfnod o sefydlogi a'r trydydd y cyfnod euraidd haelionus a dylanwadol, ac yn olaf y blynyddoedd o dristwch o weld y credinwyr yn cilio a'i difaterwch.
Dechreuodd yr Achos yn y Bermo mewn ystafell yng nghartref Robert Griffith y Siop Fawr. Bu'r teulu yma yn arwain yr achos Fethodistiaeth yn y dyddiau cynnar. Roedd y mab, Hugh, yn dra gweithgar ond bu farw pan yn bymtheg oed ac ar gofrestr y plwy mae rhywun wedi ysgrifennu ar ochr cofnod ei farwolaeth 'dechreuodd yr Achos Fethodistiaeth', ac yr oedd hyn yn y flwyddyn 1776. Gadawodd arian yn ei ewyllys tuag at adeiladu capel yn y Bermo. Nid yw dyddiad agor y capel yn glir iawn ond yn ôl llyfr y trysorydd fe roddir y dyddiad fel 1760, a tebyg yw dyna pryd ddechreuodd yr achos yn nhre'r Bermo. Roedd capel i'r Fethodistiaeth eisoes wedi ei adeiladu ym Maentwrog.
Erbyn heddiw nid hawdd yw darganfod lle roedd safle'r Capel cyntaf. Cwbwl wyddom ydi ei fod rhwng lleoliad Eglwys Dewi Sant a'r rheilffordd - gan gofio nad oedd yr un o'r ddau le mewn bodolaeth ar y pryd.
Yn y dogfennau sydd ar gael roedd yn Eglwys weithgar ac yn cadw at Lythyren y rheolau. Erbyn 1789 roedd y ddyled wedi ei glirio.
Mae llawer o enwau'r aelodau ar gael ac mae rhaid parchu eu daliadau, eu ffydd a'u hymdrechion dros yr Achos.
Am ryw reswm penderfynwyd adeiladu capel newydd. A oedd yr adeilad wedi mynd yn rhy fach i ddal yr aelodau? Bu i'r adeilad newydd gael ei sefydlu lle mae 1 a 2 Cumberland Place heddiw.
Mae'r weithred yn rhoi Tachwedd 1824 fel y dyddiad, ond credir iddo ei gwblhau cyn hynny. Deallwn fod y ddyled eto wedi ei glirio erbyn 1845.
Dechreuwn ar ail gyfnod Caersalem, sef rhif dau. Erbyn 1830 yr oedd yr aelodaeth yn 95 ac erbyn 1860 yr oedd yn 116. 'Roedd diwygiad '59 wedi gwneud gwahaniaeth i gynnydd yn aelodaeth ac yn y papur lleol cofnodir bod 70 wedi ymaelodi yng Nghaersalem mewn cyfnod o dri mis.
Yn y flwyddyn 1864 rhoddwyd galwad i'r Parchg. David Davies i fod yn weinidog cyntaf Caersalem ac fe gafodd eglwys gref, gadarn a chroesawus. Eto o achos cynnydd yn yr aelodaeth 'roedd y capel yn mynd yn rhy fach a rhaid oedd meddwl am safle arall. Yn yr un cyfnod roedd cwmni'r Cambrian Railway yn awyddus i brynu safle'r hen gapel er mwyn galluogi mynd ymlaen gyda'r Rheilffordd. Felly prynwyd y safle ganddynt am £830. Gyda'r cymal fod y safle yn cael ei glirio yn syth...
'Roedd yn rhaid cael safle i adeiladu eglwys newydd ac ar ôl pendroni bu iddynt brynnu gardd y Lion Hotel am y swm o £380, ac adeiladwyd y capel ar gost o £2.500 a phan ymneilltuodd David Davies yn 1874 dim ond £700 oedd y ddyled, ond cafwyd adeilad o faint ac yn dal rhwng 600 i 700 o
aelodau.
Olynydd David Davies oedd y Parchedig R.H. Morgan a dechreuodd ar ei waith yn1875. Bu yn bugeilio yng Nghaersalem hyd at 1887. Un o Ddyffryn Ardudwy oedd a chafodd ei addysg gynnar yno. Bu am gyfnod yn Coleg Caeredin a graddiodd fel MA. Bu hefyd yn ysgrifennydd Cymdeithasfa'r Gogledd o 1883 i 1887. Bu yn llafurio gryn dipyn i gael addoliad Saesneg ar gyfer y di-Gymraeg.
Yn ystod cyfnod yr ail gapel fe godwyd addoldy'r Parsel yn gangen o Gaersalem, gydag ysgol Sul yn y bore, pregeth yn y prynhawn ac ambell i gyfarfod gweddi yn ystod yr wythnos. Pregethwyd yno am y tro cyntaf ym mis Mehefin 1856, a chyn hynny cynhaliwyd gwasanaethau mewn tai ac fe
enwir yn arbennig llofft Hendrecoed.
Caersalem rhif tri oedd y cyfnod euraidd, dylanwadol a haelionus rhwng yr Eglwys a'r dref yn gyffredinol. Dyma bryd y daeth Y Parchedig Gwynoro Davies i fugeilio Eglwys Caersalem yn sef 1887, trwy ei arweiniad cynyddodd yr aelodaeth i 328 ac yn 1888 i 347 ac yn y flwyddyn ddilynol i 450, ac yn cyrraedd ei uchafbwynt yn 1892 yn 440.
Yn 1878 fe osodwyd carreg sylfaen Christ Church i lawr a chynhaliwyd y gwasanaeth cyntaf ar y 5ed o Dachwedd 1878. Christ Church yw merch hynaf Caersalem gyda Park Road yn ferch ieuangaf. Adeiladwyd Park Road yn 1893 a chafwyd 150 o aelodau, y rhan fwyaf o Gaersalem, ond daeth yr aelodaeth i fyny drachefn gyda Diwygiad '04."
Ymlaen â'r hanes...