Fel mab i weinidog, mae'r canwr, gŵr busnes a'r gwleidydd amlwg wedi byw mewn sawl man yng Nghymru gan gynnwys ardal Penllyn - ardal sydd wedi bod yn ysbrydoliaeth ar gyfer nifer o'i ganeuon enwocaf, yn eu mysg Mae'n Wlad i Mi. Ond er geiriau'r gân honno, mae'n cyfaddef nad yw'n fawr o fynyddwr, er gwaethaf lleoliad Llanuwchllyn yng nghysgod mynyddoedd yr Arennig a'r Aran.
"Rwyf wedi canu am grwydro llwybrau'r Arennig a'r Aran ond dwi erioed wedi bod ar yr Arennig a dim ond unwaith neu ddwy i fyny'r Aran!" meddai.
Symudodd y teulu i Llanuwchllyn o Frynaman pan oedd Dafydd yn 12 oed.
"Mi dreuliais un ar ddeg mlynedd bendigedig yn Llanuwchllyn," meddai'r canwr a'r gwleidydd.
"Hogyn y wlad ydwyf boed hynny yn Sir Gaerfyrddin, Aberteifi, Maldwyn, Arfon neu yn Meirion.
"Roedd y diwylliant Cymraeg yn fywiog a chreadigol yn Llanuwchllyn," ychwanegodd.
Mae'n credu mai dylanwad O.M. Edwards, un o feibion y fro, sydd wedi bod yn bennaf gyfrifol am hynny.
"Lle bynnag ewch chi yn y fro hon, nid ydych byth ymhell o gysgod neu o lewyrch goleuni O.M. Edwards," meddai. "Mae'n ddyn adawodd ei farc yn sicr ar genedl Cymru.
"Oherwydd ei gysylltiad ef gyda Llanuwchllyn, a chysylltiad ei fab Ifan ab Owen Edwards gyda'r Urdd, dwi'n meddwl fod y cyfan wedi rhoi rhyw fath o syniad fod Llanuwchllyn yn gryf gyda diwylliant Cymraeg."
Mae'r iaith a'r diwylliant wedi bod yn rhan annatod o fywyd Dafydd Iwan, fu ar flaen y gad yn y frwydr ers ymuno â Chymdeithas yr Iaith yn y 1960au.
"Beth oeddwn yn ei wneud oedd ymladd dros y diwylliant roeddwn wedi ei weld ym Mrynaman a Llanuwchllyn.
"Roeddwn yn ofni bod yr holl beth oedd wedi bod yn fywyd i mi mewn peryg o ddiflannu," ychwanegodd.
Mae Dafydd a Iolo yn teithio ar drên Llyn Tegid, siwrnai yr oedd y canwr yn ei wneud yn ddyddiol pan yn ifanc wrth deithio i'r ysgol yn y Bala.
Bu dŵr yn ffynhonnell bwysig i Llanuwchllyn yn yr hen ddyddiau, ac fe'i defnyddiwyd i gynhyrchu trydan ar gyfer y pentref gyfan.
Mae Dafydd Iwan yn credu ei bod hi'n ddull y gellir gwneud mwy o ddefnydd ohoni yn y dyfodol.
"Mae gennyf ddiddordeb mawr mewn cynhyrchu ynni o ffynhonnell adnewyddol fel y gwynt, yr haul ac yn arbennig dŵr yma yng Nghymru," meddai.
"Fe ddylen ni fod yn llawer mwy dyfeisgar yn cynhyrchu ynni ein hunain a'i werthu i'r grid."
Roedd Iolo Williams yn amlwg wedi cael amser difyr yn crwydro Penllyn gyda Dafydd Iwan.
"Mae Dafydd yn arwr i lawer iawn o Gymry ac roedd hi'n ddifyr iawn crwydro yn ei gwmni," meddai Iolo.
"Mae wedi gwneud cymaint o bethau yn ei fywyd - o ganu a theithio i wleidydda ac roedd ei holi fo am ei wahanol brofiadau yn ddiddorol dros ben."