Golygydd, llenor ac addysgwr
Magwyd Owen Morgan Edwards ar fferm Coed-y-Pry, Llanuwchllyn. Bu'n astudio yng Ngholeg y Bala a Choleg Aberystwyth cyn cael ei dderbyn i Goleg Balliol, Rhydychen lle'r astudiodd hanes. Gadawodd y byd academaidd am gyfnod wedi graddio, a threulio dwy flynedd yn crwydro o amgylch Llydaw, y Swistir, yr Eidal a'r Almaen, gan ysgrifennu am ei brofiadau yn ei lyfrau taith cynnar.
Yna dychwelodd i'w yrfa academaidd, gan ddarlithio mewn hanes ym Mhrifysgol Rhydychen lle bu'n flaenllaw yn sefydlu Cymdeithas Dafydd ap Gwilym, a wnaeth lawer i adfywio llenyddiaeth Gymraeg ar gychwyn yr ugeinfed ganrif.
Priododd ag Elin, merch y Prys Mawr, Llanuwchllyn, ac fe adeiladon nhw gartref moethus newydd sbon yn Llanuwchllyn, Neuadd Wen. Er bod OM yn rhannu ei amser rhwng Llanuwchllyn a Rhydychen, yn ei bentref genedigol roedd prif gartref y teulu.
Aeth ymlaen i fod yn Brif Arolygydd Ysgolion y Bwrdd Addysg yng Nghymru. Cafodd ddylanwad mawr ar addysg yng Nghymru, a bu'n ymladd yn erbyn y system addysg uniaith Saesneg.
Cyhoeddodd nifer fawr o lyfrau a chylchgronau i oedolion a phlant i geisio lledaenu balchder tuag at iaith a thraddodiadau Cymru. Yn eu plith roedd Cymru a Cymru'r Plant, a lawnsiwyd yn y 1890au cynnar.
Cyhoeddodd hefyd gylchgrawn Saesneg, Wales, wedi ei anelu, meddai, "at drigolion Saesneg Cymru - y Saeson sy'n camddarlunio Cymru a'r Saeson sy'n ceisio deall Cymru ....Y mae hanner trigolion Cymru yn siarad Saesneg; carant Gymru fel ninnau; y mae eu gwladgarwch mor ddwfn ac mor bur."
Gweithiai'n ddiflino i gynyddu ymwybyddiaeth y Cymry o'u treftadaeth a'u diwylliant. Yn ei gyfres Cartrefi Cymru tynnodd sylw at dai a fu'n gartrefi i enwogion a gyfranodd at gyfoeth diwylliant Cymru.
Daeth yn enw mor adnabyddus dros Gymru, fel na theimlodd yr arweinydd yn Eisteddfod Castell-nedd yn 1918 fod angen mwy o gyflwyniad i lywydd y dydd na: "Dyma fo i chi - Gwaredwr mawr y Gymraeg!"
Bu farw ddwy flynedd yn ddiweddarach yn 1920. Aeth ei fab, Ifan ab Owen, ymlaen i barhau â gwaith ei dad a sefydlu'r Urdd; mae cerfluniau o'r ddau i'w gweld ar y ffordd i mewn i bentref Llanuwchllyn.
Trifia:
Cymaint oedd edmygedd OM Edwards at fynydd yr Aran dywedodd unwaith: "... pe bawn bagan, hi fuaswn yn ei haddoli..." !