Mi ges i fy ngeni yn Swydd Efrog, yng ngwlad y Brontës. Mae'r rhosydd i fyny fa'na yr un mor oer a gwyntog a maen nhw'n ei ddweud yn y llyfrau!
Ond roedd fy nhad yn dod o Bwllheli, a dwi newydd ddarganfod fod fy nain wedi cael ei magu yna hefyd. Felly mae gen i fwy o gysylltiad efo Pen Llŷn nag oeddwn yn ei wybod.
Roeddwn yn gallu siarad ychydig o Gymraeg fel plentyn - wel, y tri gair ddaru nain ei ddysgu i mi, sef 'gwely', 'cariad' a 'cwsg'.
Ond doeddwn i ddim wedi bod i Bwllheli o gwbl tan i dad farw. Wedyn, gan fod gen i frawd a chwaer ieuengach a mam oedd yn sâl, mi benderfynais mai fy nyletswydd i oedd edrych ar ôl y teulu.
Mi welodd mam hysbyseb am swydd dysgu yn yr ysgol ramadeg ym Mhwllheli. Wnes i 'mond trïo am y swydd i blesio mam, a gan fod dad wedi dod o'r ardal - ro'n i'n credu y byddwn yn llwyddiannus!
Ar ôl mynd i'r coleg yn Exeter roeddwn wedi dysgu yn Llundain am gyfnod ac felly roedd Pwllheli yn ymddangos ryw dair blynedd y tu ôl i bethau, yn enwedig y ffasiwn. Ond roedd yn bleser dysgu'r plant yna ac roedd gan y rhieni gymaint mwy o ddiddordeb a pharch at addysg yng Nghymru. Cefais fy nghyflwyno fel 'yr athrawes Saesneg o Lundain' - dramatig iawn!
Roeddwn wedi bwriadu aros am ddwy flynedd yn unig, gan fy mod wedi gohirio swydd fel gwirfoddolwyr tramor. Ond o fewn y ddwy flynedd, roeddwn yn briod!
Mi es i draw i Ynys Enlli a chyfarfod Ernest, mab i Wil Evans - neu Wil Tŷ Pella - ffermwr o'r ynys. Mae Ernest yn gallu olrhain hanes ei deulu ar yr ynys yn ôl i'r 1770au a fo oedd y plentyn olaf i gael ei addysg yn ysgol Enlli.
Mae Ernest yn bysgotwr ac yn trwsio cychod, fel ein mab, Colin.
Felly dwi wedi byw yn Aberdaron neu ar Enlli ers y 1060au - dydyn ni ddim yn byw ar yr ynys trwy'r flwyddyn. Mi fyddai'n anodd, yn enwedig i fy ngŵr, byw heb wres canolog, teledu a ffôn dibynadwy yn ystod y gaeaf!
Mae'n rhaid i ni gerdded i ben yr allt uchaf ar yr ynys i gael signal ffôn, neu ddibynnu ar ffôn yn y tŷ sydd wedi ei gysylltu i drosglwyddydd ar dop yr allt gan weiren hir. Os nad oes digon o egni yn y generadur, sy'n cael ei bweru gan yr haul, bydd y ffôn yn dechrau peidio â gweithio. Mi faswn i'n hoffi cael generadur gwynt ar yr ynys ond mae'n rhaid cael hawliau cynllunio yn gyntaf.
Dydyn ni ddim yn gallu cysylltu â'r we ar yr ynys chwaith - felly os oes gan unrhyw un syniadau am sut gawn ni gysylltu â'r we, heb gyflenwad parhaol o egni, dywedwch! Byddai'n wych, yn enwedig i fab bach y warden adar.
Mae'n rhaid i chi fod yn drefnus iawn i fyw ar ynys mor fach. Mae gen i ardd lysiau go dda erbyn hyn ond dydyn ni ddim yn gwneud pethau fel menyn ein hunain, fel y byddai mam Ernest. Felly, mae'n rhaid gwneud rhestr siopa hir i sicrhau fod gandon ni bethau fel te a choffi, sudd oren a siwgr.
Rydym wedi cael ein dal allan gan y tywydd sawl gwaith hefyd. Roeddwn yn hwyr mynd yn ôl i'r ysgol ddwywaith yn y 60au. Yr adeg honno, pan roedd dyn yn edrych ar ôl y goleudy, roedd yn rhaid i mi anfon telegram trwy'r radio telegraph - wnes i byth glywed ei diwedd hi yn yr ysgol!
Rydym yn dod yn ôl i Uwch Mynydd, Aberdaron, pan ddaw'r tymor pysgota i ben yn yr hydref. Mi roeddwn yn gwneud ychydig o ddysgu yn y gaeaf ac erbyn hyn, er fy mod i wedi ymddeol, dwi'n dal i ddysgu ysgrifennu creadigol a darllen fy marddoniaeth.
Mae Aberdaron yn lle distawach yn y gaeaf na'r ynys yn yr haf. Mae 'na saith ffarm neu fwthyn ar Enlli i bobl aros a chan fod nifer fawr yn dod yn ôl dro ar ôl tro, mae pawb wastad yn galw draw am baned. Mae o fel cael teulu estynedig.
Enlli yn ysbrydoliaeth i farddoniaeth Christine...