
Dwi wedi cyhoeddi sawl cyfrol o farddoniaeth erbyn hyn. Mi fyddwn i wastad yn sgriblo fel geneth fach ond wnes i ddim cymryd y peth o ddifrif nes i mi gael cyfnod mamolaeth ar ôl geni Colin.
Ar ôl deng mlynedd o ddysgu, gwelais bymtheg wythnos o'm blaen i wneud rhywbeth gwahanol - wnes i ddim ystyried y byddai'n newid mawr yn fy mywyd i gael babi bach!
Hefyd, roedd y bardd R S Thomas, ficer Aberdaron, yn ffrindiau mawr efo tad Ernest ac yn dod draw i'r ynys. Mi fyddem yn sgwrsio am farddoniaeth, ond mi ddywedodd na fyddwn i'n gallu ysgrifennu o ddifrif gan y byddwn yn rhy brysur efo'r tŷ a'r babi. Mi ddywedodd hefyd fod merched wastad yn sgwennu am yr un pethau.
Wel, dwi ddim yn siŵr os mai herio oedd o, ond mi roeddwn yn benderfynnol o ysgrifennu ar ôl hynny. Pwnc fy ngherdd gyntaf oedd newid napis a helpu gyda'r wyna, pynciau oedd yn ddigon teilwng o gerdd beth bynnag.
Dwi wir yn cael fy ysbrydoli gan bobl Uwch Mynydd ac Enlli. Roedd R S Thomas wastad yn gwneud i fywyd cefn gwlad swnio mor anodd â thywyll ond dwi am ddathlu'r ffordd yma o fyw.
Ar hyn o bryd, dwi'n gweithio ar lyfr am yr ynys - 'hanes bersonol' - lle byddaf yn adrodd straeon yr ynys drwy'r tirwedd. Dwi'n gweithio efo'r ffotograffydd Wolf Marloh o Lundain, sydd yn adnabod yr ynys yn dda. Rydan ni'n gobeithio y bydd o allan rhywbryd yn 2007.
 |