| Mae peth offer Rhufeinig a phres o'r safle yn cael eu harddangos yn yr Amgueddfa ym Mangor.
Ond wrth baratoi a chloddio ar gyfer y Ffordd Osgoi cafwyd hyd i rai pethau newydd sy'n awgrymu fod y safle yn bwysicach nag a feddyliwyd. Cefais sgwrs efo Iwan Parry o
Ymddiriedolaeth Archeolegol Cyngor Gwynedd ynglŷn a'r darganfyddiadau. Gyda llaw, mae Iwan yn ŵyr i'r diweddar Tom Parry. Daeth olion odyn galch i'r fei, a hwnnw'n fawr - yn mesur 4 metr ar ei draws. Ynddo roedd golosg yn arwydd o'r llosgi a fu ar y galchfaen. 'Mae'n debygol,' meddai Iwan, 'i'r cerrig calch gael eu cludo yma dros y môr o Fôn. Rhaid cofio, fod y môr yr adeg honno yn dod i fyny hyd at y creigiau hyn.' Syndod arall oedd darganfod nifer fawr o lechi oedd ar do baddondy a ddefnyddiai'r Rhufeiniaid.
Siâp diamwnd sydd i'r llechi ac mae'n debyg iddynt gael eu cludo yma o Ddyffryn Nantlle. Llechi tew ydyn nhw ac mae twll ym mhob un ar gyfer hoelen i'w dal ar y to. Ar un llechen mae rhan o'r hoelen yn dal ar y to. Mae'n debyg mai dyma'r casgliad
'mwyaf o lechi Rhufeinig yng Nghymru. 'Tybed a fyddai modd cael safle i gadw'r
cerrig ac ail greu'r odyn?' gofynnodd Iwan.
 |