| Mewn Noson Goffi lwyddiannus iawn yn y Ganolfan ym Mhorthmadog nos Wener, 30 Ionawr codwyd y swm anrhydeddus o £515.40. Noddwyd y noson gan Fanc Barclays, ac mae gennym le i ddiolch am y cymorth a'r gefnogaeth a gawsom gan staff y banc. Mae'n anodd meddwl am yr haf yng nghanol yr eira a'r rhew, ond buan iawn y daw mis Awst a'r Eisteddfod, a gyda lwc mi fyddwn wedi cyrraedd y targed, diolch i nosweithiau tebyg.
 |