| Daeth yr ysbrydoliaeth i drefnu hyn yn ôl yn 2007 pan gyflwynodd Mrs Helen Morris gardiau post yn dyddio o'r Rhyfel Byd Cyntaf i'r elusendai. Roedd y cardiau wedi eu hanfon i daid a nain Mrs Morris gan ei thad yn ystod y rhyfel. Cafodd gwasanaeth ei thad fel milwr ei gydnabod yn ystod y rhyfel a'i enwi yn y London Gazette. Roedd y cardiau wedi eu harwyddo gan 'Bob' a'u hanfon i'w fam, Mrs David Jones, 13 Bridge Street, Llanrwst. Roedd cardiau wedi eu hanfod i dad Bob, oedd yn filfeddyg yn Llanrwst ar y pryd, a hefyd i'w chwaer, Miss Hannah Jones. Ar ôl derbyn y cardiau aeth staff yr elusendai ati i geisio darganfod mwy o hanes milwyr eraill o Lanrwst yn ystod y cyfnod.
Defnyddiwyd Archifdy Conwy fel ffynhonnell a threuliwyd oriau yn darllen drwy bapurau newydd 1914-1918. Nid yw'r gwaith wedi ei orffen eto - byddant yn ychwanegu at yr arddangosfa'n flynyddol drwy gynnwys mwy o lythyrau a ysgrifennwyd gan filwyr lleol o faes y gad. Mae gwaith wedi ei wneud hefyd drwy recordio hanesion pobl leol o'r Ail Ryfel Byd; ar hyn o bryd maent i'w gweld ar ffurf fideo ond mae cynllun ar y gweill i'w cofnodi mewn llyfr yn y dyfodol. Mae staff yr elusendai yn ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi rhoi benthyg pob math o bethau iddynt ar gyfer yr arddangosfa - maent yn bwriadu gwneud defnydd pellach ohonynt er mwyn ehangu beth fydd yna i ymwelwyr fwynhau. Un agwedd gyffrous o'r arddangosfa yw'r ymweliadau gan ddisgyblion yr ysgolion lleol. Roedd dros 200 wedi cael y cyfle i brofi bywyd yr Ail Ryfel Byd drwy weld ystafell o'r cyfnod a chael eu gwisgo fel faciwîs.
 |