BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Pentan
Y MostynCyffro celf!
Mehefin 2010
Os ydych chi'n un o'r rheini sy'n synnu a rhyfeddu at ddawn yr artist, fe gyfoethogwyd ardal y Pentan yn sylweddol i chi yn ystod yr wythnosau diwethaf.

Mae'n siwr eich bod chi wedi ymweld ag Oriel Academi'r Cambrian yng Nghonwy. Bu'r Cambrian yn gyrchfan ers dros ganrif i bawb sy'n ymddiddori mewn celf weledol.

Yn ogystal a chynnig dosbarthiadau celf i blant ac oedolion, mae gofod arddangos hwylus yno. Ar hyn 0 bryd gellir gweld arddangosfeydd gan Gerald Dewsbury a Lesley Barker, y ddau'n aelodau o'r Academi.

Ond pe byddai'r ddau am arddangos yno ganrif yn ôl, dim ond gwaith Gerald fyddai'n cael ei dderbyn gan na chawsai merched arddangos yn y Cambrian bryd hynny... dynion yn unig!

Roedd teimladau'n gryf a chyn hir sefydlwyd oriel arall ychydig filltiroedd i ffwrdd yn Llandudno, sef oriel Y Mostyn, fyddai'n caniatáu i ferched hefyd gael arddangos eu gwaith.

Ar yr 22ain o Fai eleni ail¬-agorodd oriel y Mostyn yn Llandudno ar ôl dros ddwy flynedd ynghau ar gyfer prosiect adnewyddu ac ehangu, a hynny'n bosib trwy £3m o arian Loteri Cyngor Celfyddydau Cymru a nifer o sefydliadau eraill.

Ar y nos lau mynychodd Gweinidog Treftadaeth Cymru, Alun Ffred Jones ddigwyddiad arbennig i ddathlu cwblhau'r adeilad lle bu Bardd Cenedlaethol Cymru, Gillian Clarke, yn traddodi cerdd ganddi a gomisiynwyd yn arbennig at yr achlysur.

Dywedodd Alun Ffred Jones: "Rwyf yn falch iawn i fod yn agor y Mostyn yn swyddogol. Mae'r cynllun ehangu enfawr wedi esgor ar oriel gelf newydd gynhyrfus fydd yn chwarae rhan hanfodol yn y celfyddydau yng ngogledd Cymru. Yn ogystal a rhoi mwynhad i'r gymuned mae'n esiampl arall o'r tirlun diwylliannol cyfoethog sydd gan Gymru i gynnig i dwristiaid."

Mae i'r Mostyn newydd lawer mwy o le bellach i arddangos celfyddyd cyfoes o Gymru a'r byd mewn adeilad sy'n cyfuno'r hen a'r newydd yn hyderus.

Mae'r tu blaen gwreiddiol, sy'n dyddio o 1901, wedi ei gadw ond fe ehangwyd a thrawsnewidiwyd y tu mewn.

Lois Williams, cerflun¬ydd lleol, fu'n artist ymgynghorol i Benseiri Ellis Williams, dderbyniodd y briff 'i fod yn syml, yn ddyrchafadwy a soffis¬tigedig - gydag un neu ddau o ryfeddodau'.

Y canlyniad ydi gofod sy'n cynnig pedair prif oriel a dau ofod arddangos llai, yn ogystal a siop, caffe, cyfleusterau addysg a stafell gyfarfod y gellir ei llogi.

Bydd Y Mostyn yn gweithredu fel canolfan bwysig ar gyfer dangos y gorau o gelfyddyd gyfoes Cymru ynghyd a galluogi ymwelwyr i brofi gwaith newydd gan artistiaid rhyn¬gwladol.

Mae'r sioeau agoriadol yn brawf o hyn gydag ardd¬angosfa gynhwysfawr o waith diweddar gan artistiaid o Gymru, 'Gennym Ni Mae'r Drychau, Gennym Ni Mae'r Cynlluniau'; 'Flooded Macdonald's' gwaith fideo gan Superflex, cydweithfa o artistiaid Daneg, Ar Hyd y Llinell' gan y ffotograffydd Darryl Lonsborough, ac artist phreswyl o Nigeria, Dilomprizulike, a adnabyddir fel y 'Junkman' o Affrica sy'n creu, Amgueddfa iard Jync o Bethau Lletchwith' dros gyfnod o dri mis.

Ymysg y llu digwyddiadau i ddathlu ail-agoriad y Mostyn bu gorymdaith gan blant ysgol lleol o Fferm Bodafon ar hyd y prom gan arddangos gweithiau celf ac offerynnau a wnaethpwyd ganddynt mewn gweithdai addysg gydag adran addysg y Mostyn tra fu'r oriel ar gau, a pherfformiad o 'Y Term Cymraeg am Road Trip' gan 'Showroom,' grŵp perfformio cyfunol o Aberystwyth.

O ran orielau preifat, mae'r Galeri ym Metws y Coed bellach yn adnabyddus fel oriel ddiddorol a chwaethus lle ceir croeso cynnes bob amser, a chyfle i fwynhau arddangosfeydd cyson o luniau gan nifer o artistiaid lleol a Chymreig.

Ar hyn o bryd mae arddangosfa tirluniau lleol gan David Lloyd Griffith RCA yn dirwyn i ben.

O Fae colwyn yn wreiddiol, mae David yn byw yn Nyffryn Conwy.

Ar gyrion tref Llanrwst ger y rhan newydd o'r A470 mae hen gartref nyrsio Bryn Derwen yn y borses o gael ei drawsnewid gan Roland Powell a Ralph Sanders i fod yn westy saith llofft safonol ac Oriel Gelf.

Mae lleoliad Ffin y Parc a'r golygfeydd o'i amgylch yn arbennig, ac mae'r gwaith ar y safle yn dangos ymroddiad y ddau i ail greu harddwch y tŷ gwreiddiol a'r gerddi.

Clirwyd mieri ac eiddew o'r hen ardd Fictoraidd ac ail blannwyd y berllan.

Agorwyd yr oriel ym mis Mai, gyda sioe gymysg gan artistiaid o Gymru, ac ar hyn o bryd mae arddangosfa o waith yr artist ifanc Lisa Carter o Lanefydd i'w weld yno

Mae'r perchnogion yn awyddus i hybu talent ifanc Cymreig, ac maent yn croesawu ymwelwyr.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy