BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Ffynnon
Elfed Hughes ar un o'r meinciau r y Lôn GoedLôn Goed
Mehefin 2010
Mae'r prosiect yn mynd rhagddo.

Chwi gofiwch yn Ffynnon fis Ebrill, roeddem yn adrodd bod coed yn cael eu plannu rhwng Hidiart a Phlas Hen.

Y mis yma mae dirgelwch y cerrig yn cael ei ddatrys.

Nid cerrig ond meinciau yw'r meini fu'n achos crafu pen i rai wrth gerdded y Lon.

Erbyn hyn mae darnau o bren wedi eu gosod i gysylltu'r cerrig i greu meinciau i gerddwyr blinedig.

Cynlluniwyd y meinciau gan Dafydd Davies-Hughes, Felin Uchaf, Rhoshirwaun.

Bu'n cydweithio gyda disgyblion ysgolion Chwilog a Llanystumdwy, ac mae'r deunyddiau yn adlewyrchu'r hyn sydd i'w gweld wrth gerdded y Lon Goed.

Gosodwyd dwy o'r meinciau rhwng Chwilog Bach a Chapel Engedi a dwy arall yn uwch i fyny; y naill yng nghyffiniau Rhosgyll a'r llall ger Coed Cae Du a Chefn Pencoed.

Ar y fainc yn y llun ceir cwpled o waith Eben Fardd; '0 Chwilog iach olau, Bro Annwyl a'i Bryniau' .

Daeth y cyllid ar gyfer y gwaith o Gronfa Treftadaeth y Loteri, a chan y Cyngor Cefn Gwlad.

Yn ôl Haydn Hughes, Uwch Warden Cefn Gwlad, Cyngor Gwynedd, mae mwy o welliannau ar y gweill, gan gynnwys rhai giatiau newydd a cherfluniau o waith y plant.

Mae'r meinciau yn werth eu gweld; ewch draw am dro i gael gweld drosoch eich hun. Y Ffynnon


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy