Y mae Owain Myrddin Edwards, 23 oed, Tŷ Mawr, Treflys mewn swydd yn y Llysgenhadaeth yn y brifddinas, Dinas Mexico. Y Llysgennad yno yw Giles Paxman, brawd Jeremy Paxman, holwr craff 'Newsnight' a chyflwynydd 'University Challenge'. Gwaith pennaf Myrddin yn ei swydd newydd yw cyfarfod gwladweinwyr a phwysigion byd busnes 'yn y maes awyr, a'u tywys a chyd-hedfan â hwy pan fo angen, i wahanol lefydd led-led Mexico. Aeth Myrddin i Mexico yn wreiddiol yn athro Saesneg mewn coleg yn nhref Tapachula yn neheudir y wlad, nid nepell o'r ffin â Gwatamala. Ei fwriad oedd aros am flwyddyn ond pan welodd hysbyseb am y swydd yn y Llysgenhadaeth gwnaeth gais amdani. Cafodd air i fynd am gyfweliad i Ddinas Mexico, ond tynnodd ef sylw'r awdurdodau mor hirfaith y siwrnai o Tapachula i'r brifddinas. Y canlyniad fu cael cyfweliad ar y ffôn - a sicrhau'r swydd hefyd. I weithio ym Mexico y mae Myrddin, wrth gwrs, yn rhugl ei Sbaeneg. - a'i Ffrangeg hefyd ran hynny. Graddiodd yn y ddwy iaith yn y Brifysgol yng Nghaerdydd. Yn ystod ei gwrs o bedair blynedd treuliodd hanner blwyddyn yn Strasbourg yn ymchwilydd i Eurig Wyn pan oedd hwnnw'n Aelod Seneddol Ewropeaidd, a hanner blwyddyn arall yn Sbaen. Ei fwriad yn awr yw eistedd arholiadau i'w gymhwyso ei hun yn Ddiplomat. Caiff wedyn deithio i wahanol lysgenadlaethau led-led y byd. Mae'n dod i Lundain p'run bynnag ym mis Medi ac yn gobeithio y bydd cyfle i bicio adref i Dreflys i weld ei rieni, Dorothy a Meirion Edwards a gweddill y teulu.
 |