| Yno bydd cartref y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Cerddoriaeth Gwerin ac o'i mewn bydd arddangosfa aml-gyfrwng, awditoriwm ar gyfer cyngherddau a chaffi-bar. Enw od, meddech chi. Deallwn fod y ganolfan wedi cael yr enw yma i gofio am delynor o Lanfachreth, Elis Sion Siamas, oedd yn byw ddechrau'r ddeunawfed ganrif, ac y tybir mae ef oedd y cyntaf i gyflwyno'r delyn deires i Gymru. I nodi'r cychwyniad newydd yma mae Roy Saer, Llywydd Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru, wedi cyflwyno rhestr hir o gylchgronnau perthnasol i'r diwylliant Canu Gwerin, Cerdd Dant a Dawnsio Gwerin yng Nghymru i Dŷ Siamas. Rhyngddynt mae'r rhain yn adrodd cyfrolau am y traddodiad gwerin yng Nghymru. Yn y llun mae Mai Parry Roberts, un o Gyfarwyddwyr Tŷ Siamas gyda Roy Saer. Llongyfarchiadau i'r criw di-flino sydd wedi bod wrthi yn Nolgellau yn hybu'r weledigaeth yma. Mwy am Tŷ Siamans yn ein hadran werin
 |