BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Pethe Penllyn
Tu fewn i garchard San PedroO'r Ariannin
Gorffennaf 2010
Ail gyfraniad Leusa Fflur o Lanuwchllyn ar daith yn Ne America yn dilyn ôl troed testun ei gwaith ymchwil, T Ifor Rees.

Mae carchar drwgenwog San Pedro yn La Paz wedi cael ei anfarwoli gan y llyfr Marching Powder, a gyhoeddwyd yn 2002.

Mae'r llyfr yn adrodd hanes bywyd smyglwr cyffuriau o Brydain yn y carchar ym Molivia.

Mi gychwynnodd o smyglo twristiaid i mewn i'r carchar am guided tours, drwy breibio'r swyddogion.

Bron ddeg mlynedd ar ôl ei ryddhau, a dyma ni'n penderfynu trio torri mewn i San Pedro.

'Chydig o alwadau ffôn yn ddiweddarach, ac wedi gwagio cynnwys fy mhwrs i ddwylo'r swyddogion dyma ni yn eistedd yng nghell carcharor un glust, milain yr olwg.

Roedd Pepe yn llywydd ar y grŵp motobeics Bandidos yn Ne America, ac yn gwerthu cocen a chanabis yn y carchar i wneud digon o arian i dalu am ei gell, a oedd yn cynnwys teledu, cyfrifiadur a gwely i'w bodyguard.

Mae carchar San Pedro yn unigryw, gan fod rhaid i'r carcharorion i gyd dalu am eu lle. Darllenwch y llyfr!

Yna, mi fues i ar lyn enfawr Titicaca yn aros gyda theulu brodorol. Mae nhw'n tyfu llysiau o bob math, ac yn gweu crefftau er mwyn gwneud bywoliaeth.

Mi ddringon ni i fyny i gopa mynydd enfawr, Pachadada - y Tad Ddaear i wneud tri dymuniad.

Dychmygwch y lle mwya ynysig ac anial erioed - mynydd uchel, filltiroedd o'r pentref bychan, ar ynys yng nghanolllyn enfawr, dair awr i ffwrdd o'r lan.

Dyma gyrraedd y top, a gwerthfawrogi'r tawelwch mawr am eiliad, cyn sylwi fod yna ddegau o stondinoedd ar y top yn gwerthu Snickers.

Dwi newydd gyrraedd yn ôl o daith gerdded pedwar diwrnod o hyd I Machu Picchu.

Mi funon ni yn rhynnu mewn tent am ddwy noson a hithau yn rhewi tu allan.

Mi gafon ni ein dilyn gan lamas ac alpac, mi gollon ni ein gwynt yn yr uchdwr mawr (4,200 metr).

Mi welson ni lynnoedd gleision a mynyddoedd gwynion.

Mi gafon ni swper mewn tyddynod y bobl leol frodorol - lle'r oedd moch cwta yn rhedeg rhydd o dan ein traed.

Roedden nhw'n cael eu bwydo yn dda, ac y eu bwyta ar adegau arbennig - dyma fwyd cenedlaethol Peru.

Yna, bore ddoe - mi godon ni am 3.30am, a cherdded i fyny cannoedd o risiau serth yn y tywyllwch i gyrraedd Machu Picchu cyn y tyrfaoedd.

Roedd o'n anhygoel - a'r olygfa yn ystod y wawr yn edrych yn well hyd yn oed nac y mae ar gardiau post.

Mewn wythnos mi fyddwn yn gadael am Panama a Chanolbarth America, ble mae fy ambarel!?


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy