 |  |  |  | Oriel Lluniau o dref y Bala ar lannau Llyn Tegid |  |  |  |  |  |  |  | Y Bala Ein hadran ar gyfer prif dref Penllyn - hanes, pobl a lluniau tref y Bala. |  |  |  |  | |  |  |  |
|  |  |  | Croeso i safle Pethe Penllyn, papur bro tref y Bala a'r cyffiniau. Papur bro pum plwy Penllyn ydyw, sef plwyfi Llanuwchllyn, Llangywer, Llanycil, Llanfor a Llandderfel, gyda Llyn Tegid yn y canol. Mae'n ardal ddiwylliannol iawn, lle mae'r diddordeb yn "y pethe" yn fawr. Tref y Bala sydd yng nghalon Penllyn, ond mae hefyd yn cwmpasu pentrefi fel Llanuwchllyn, Parc, Cefnddwysarn a Llandderfel. Ar lannau Llyn Tegid mae Gwersyll yr Urdd yng Nglanllyn sy'n denu cannoedd o bobl ifanc bob blwyddyn. |  |  |  |

|