| Cyn y Nadolig, buom yn adeiladu bocsys adar ar gyfer adar bach fel y titw a'r robin goch. Nawr, roedd yn bryd gosod y bocsys yn barod ar gyfer y gwanwyn. Gosodwyd tri bocs o gwmpas tir yr ysgol a byddwn yn gosod pedwar yng nghoedwig Cerrig yr Afon ar ôl y gwyliau hanner tymor. Hefyd bu rhai o'r disgyblion ieuengaf yn y cae cyfagos yn casglu gwlân i helpu'r adar inswleiddio eu nyth!
 |