Rydym hefyd wedi ymweld â maes y gad Pentraeth ger mynwent yr eglwys yn Llanbedrgoch, Sir Fôn. Ddaru'r frwydr ddigwydd yn 1170, ger hen fferm Maes y Gad, sy'n sefyll ar dir corsiog iawn. Roedd yn ffrae rhwng meibion Owain Gwynedd.
Roedd Owain Gwynedd wedi cael llawer o blant gan sawl gwraig, ac wrth dyfu fyny byddai'r meibion yma yn ymladd ymysg ei gilydd. Ar y un ochr, ym Mhentraeth, roedd Hywel ap Owain Gwynedd, ac ar yr ochr llall ei frodyr, Rhodri a Dafydd. Roedd Dafydd ab Owain Gwynedd eisiau bod yn dywysog ar yr ardal, ac ef ddaru ennill.
Rydym wedi dysgu llawer am y frwydr o'r holl farddoniaeth a gafodd ei gyfansoddi yno. Gallwch ddarllen y penillion yn yr Oxford Book of Welsh Verse, sy'n cynnwys teyrnged i Hywel a phenillion gan Hywel ein hun; roedd tywysogion y bryd yn dipyn o feirdd hefyd. Roedd yn brofiad emosiynol iawn wrth i ni sefyll ar y groesffordd fach ym muarth y fferm, yn darllen geiriau nad oedd neb wedi eu clywed yno ers canrifoedd.
Mae 'na sôn am y frwydr yn digwydd ger nant fach, ac mae yna dal un yn llifo trwy'r tir heddiw. Rydym felly yn gallu gweld pa mor gorsiog oedd y tir ar faes y gad. Ar ôl sbel o ymladd byddai'r tir wedi meddalu a'r milwyr yn disgyn i mewn i'r gors. Nid yw brwydrau yn bethau rhamantus. Rydym wastad yn meddwl am y milwyr, a'u teuluoedd oedd am golli mab, tad neu ŵr. Doedd dim yswiriant cenedlaethol adeg yna; byddai'n rhaid i'r teuluoedd edrych ar ôl eu hunain.
Ac mae'r un peth dal i ddigwydd mewn rhai llefydd yn y byd heddiw. Mae pobl dal i gael eu lladd neu eu hanafu a methu bwydo eu teuluoedd. Dim ond yr arfau sydd wedi newid. Fel sy'n digwydd heddiw gyda post traumatic stress, mae yna farddoniaeth gan Aneurin yn sôn am fynd yn wallgof ar ôl gweld yr holl frwydro, fel shell shock.
Un maes y gad arall yng ngogledd Cymru yw Aberlleiniog, Ynys Môn, lle ddigwyddodd brwydr yr Afon Menai. Mae'r frwydr yma yn un doniol!
Yn tua 1098, roedd y Llychlynnwr, Magnus Barelegs, yn hwylio heibio i benrhyn Ynys Seiriol, ar ochr de-ddwyreiniol Ynys Môn. Gwelodd y Normaniaid yn rhoi amser ofnadwy i'r bobl leol; yn ymddwyn yn dreisgar ac yn lladd eu plant. Anfonodd un o'i ddynion i'r lan i gael esboniad am y trais a phan glywodd bod y Normaniaid yn lladd pobl ddiniwed, penderfynodd ymosod arnynt. Dinistriodd llynges y Normaniaid a'u gyrru o'r ynys. Ond wedyn, gan nad oedd Magnus wedi dod efo llynges go iawn ei hun, roedd o heb gymorth ac yn styc! Felly ar ôl rhoi trwyn gwaedlyd i'r treiswyr, hwyliodd adref.
Gan fod hwn yn antur o safbwynt y Llychlynwyr, mae o wedi nodi mewn dogfennau yn archif Frenhinol Norwy. Ddaru ni felly sefyll ar y traeth a darllen o'r ysgrifau yma, a daeth y frwydr yn fyw i ni gyd.
Mwy am feysydd y gad yr ardal.