Rydym ni fel cymdeithas yn ymweld â meysydd y gad yng Nghymru i drafod y tachtegau milwrol tu ôl i'r brwydrau. Ond rydym hefyd yn cofio'r bobl a gymerodd ran yn y brwydrau; yn darllen penillion ac adroddiadau o'r ymladd yn y man a'r lle, i gofio sut oeddent yn teimlo ar y pryd. Mae haneswyr yn dueddol o aros wrth eu desgiau, yn darllen am ddigwyddiad mewn llyfr, ond rydym ni yn hoffi mynd allan i gael profiad o'r lleoliad, y tirwedd a'r awyrgylch.
Dwi'n ddaearegwr ac eisio gweld a theimlo tirwedd maes y gad. Mae rhai eraill o'n haelodau ni yn gyn-filwyr hefyd, ac yn gallu dehongli'r brwydrau o safbwynt milwrol.
Ddaru ni fynd draw i Foel y Don ar ochr Sir Fôn o'r Fenai; yn y fan lle ymosododd milwyr Edward 1af ar y Cymry yn y 13fed ganrif. Os safwch ar y cei yn Felinheli ac edrych dros y dŵr, gwelwch benrhyn bach gyda bwthyn arno, i'r gogledd o'r pontydd mawr. Rydym yn tybio mai dyma lle ddaru'r milwyr Normanaidd adeiladu bont i gyrraedd yr ynys. Mi fuasai'r bont yma wedi ei wneud allan o resi o gychod, gyda'r milwyr yn gallu camu o un i'r llall i groesi'r dŵr.
Roedd Edward 1af wedi bod yn cynllunio pont o gychod ers Mai 1282. Mae yna dystiolaeth iddo alw nifer fawr o adeiladwyr cychod o dde Lloegr i Gaer i roi'r bont at ei gilydd, ac yna ei hwylio o amgylch yr arfordir.
Roedd y bont yn barod i'w ddefnyddio ym mis Medi. Tybiodd Edward 1af y byddai wedi ennill y tir draw o Ddinbych i'r Afon Conwy erbyn hynny, a meiddianu tir tywysogion Gwynedd. Roedd am i un rhan o'i fyddin ymosod o'r dwyrain, a choncwerwyr Sir Fôn ymosod o'r gorllewin, gan dal Llewelyn yn ei Lys yn Abergwyngregyn a'i guro.
Ond roedd o yn parhau i ymladd yn Sir Ddinbych tan yr Hydref. Ddaru cadfridog y fyddin yn Felinheli dechrau poeni am y gaeaf; roedd y tywydd yn gwaethygu, a'r bont o gychod yn dechrau dirywio yn y dŵr hallt, ac erbyn 6 Tachwedd, penderfynodd nad oedd o'n gallu aros am fyddin Edward 1af mwyach.
Gan ddefnyddio google earth ac astudio amseroedd y llanw a chodiad yr haul, rydym yn tybio eu bod wedi croesi'r bont tua 7.15 y bore. Nid oedd gweld y milwyr yn croesi'r bont, oedd wedi bod yna am rhai wythnosau, yn syrpreis fawr i'r Cymry wrth gwrs. Ddaru'r Saeson geisio creu cyffro wrth groesi yn y tywyllwch, ond rydym yn sicr bod y Cymry yn aros i hyn ddigwydd. Eu tachteg orau oedd gadael i rai o'r Saeson lanio, tra bo rhai dal wrthi'n croesi'r bont, cyn ymosod. Mae yna ddisgrifiad o'r frwydr mewn llythyr adref gan un o'r milwyr Saesneg. Mae o'n sôn am weld niferoedd mawr o'r Cymry i fyny ar y bryniau a'u bod wedi poeni, a dechrau ceisio mynd yn ôl dros y bont.
Ond byddai'r Cymry yn ymwybodol bod y llanw yn newid; yr unig ddewis i filwyr Lloegr oedd neidio i mewn i'r dŵr neu symud ymlaen i ymladd y Cymry.
Roedd yn chwalfa fawr o safbwynt y Saeson. Ddaru nhw golli lot fawr o'i milwyr, gan gynnwys llawer o'r swyddogion. Mae hanes yn tueddu i liwio'r Cymry fel dynion gwyllt o'r mynyddoedd, ond roeddent wir yn filwyr profiadol ac yn ymwybodol iawn o bethau fel tachtegau ac arfau.
Mwy o feysydd y gad ein hardal.