Crydd y pentref oedd Richard, ond fel nifer fawr o gryddion eraill, roedd hefo diddordeb mawr mewn addysg. Byddai'n darllen bopeth; arferai bobl y pentref ddod a phapurau newydd iddo ddarllen ar ôl gorffen ei waith, ac roedd o'n cynnal cyfarfodydd i drafod pynciau'r dydd.
Roedd Richard Lloyd yn ddyn arbennig. Daeth yn fentor a thywyswr i David Lloyd Goerge ar ôl marwolaeth ei dad.
Ganed David Lloyd George ym Manceinion gan fod ei dad yn athro. Ond roedd William George yn dioddef o broblemau gyda'i ysgyfaint; mae 'na sôn mae TB oedd o. Roedd ei deulu yn ffermwyr o Sir Benfro, a gan eu bod yn credu fod awyr iach yn dda i afiechyd yr ysgyfaint adeg yna, aeth William a'i deulu yn ôl i dde Cymru.
Ond un diwrnod, cafodd ei wlychu i'w groen tra'n gweithio allan ar y fferm fach, ac o fewn wythnos, roedd o wedi marw.
Roedd Elizabeth, mam Lloyd George felly ar ei phen ei hun mewn lle estron gyda dau o blant bach; David a Mary Elen, ac yn disgwyl baban arall.
Felly trodd at ei theulu ei hun, gan anfon telegram i Richard Lloyd ei brawd, gyda dim ond dau air arno: 'Tyrd Richard'.
'Doedd Richard erioed wedi cysgu tu allan i ffiniau Llanystumdwy, felly mae'n rhaid bod y siwrne deuddydd i Sir Benfro yn sialens fawr iddo. Ond aeth at ei chwaer, gan ddelio efo tenantiaeth y fferm a chynnal ocsiwn o'r offer a dodrefn y tŷ.
Ond penderfynodd gadw casgliad eang o lyfrau William George. Cawsant eu hanfon i fyny i fwthyn Highgate yn Llanystumdwy mewn deg cist fawr a'u cadw yn y llofft.
Dim ond tair wythnos ar ôl i deulu ei chwaer ddod i fyw ato fo a'u fam, dywedodd Richard wrthi na fyddai byth yn priodi, gan ei fod am helpu hi i fagu'r plant. Ni chafodd yr un plentyn ddirprwy dad gwell na fo.
Trodd y parlwr yn stydi i David a William ac aeth ati i ddysgu'r bechgyn i ddarllen llyfrau'n iawn. Byddai Richard yn rhoi llyfr yr un i'r brodyr, ac un i'w hun, a'r dasg oedd gwneud précis union o'r bennod, gan sicrhau eu bod wedi nodi'r wybodaeth bwysig.
Roedd yr ymarfer yma yn gymorth mawr i Lloyd George fel gweinidog. Pan fyddai'n derbyn y bocs llawn papurau swyddogol, roedd a'r gallu i'w ddarllen unwaith a chofio'r cynnwys. Roedd yn rhaid i'w cyd-wleidyddwyr eu darllen sawl gwaith cyn iddynt eu deall yn iawn.
Cafodd pregethau Richard George hefyd effaith ar David. Roeddent yn aelodau o Fedyddwyr Albanaidd nad oedd yn credu mewn talu arweinydd crefyddol. Byddent felly yn dewis rhai o'i plith i bregethu ac roedd Richard yn brysur pob Sul.
Gall weld effaith pregethau Richard mewn areithiau Lloyd George; roedd wastad wedi ei llunio'n grefftus gyda diweddglo da.
Roedd yn edmygwr mawr o Arlywydd Lincoln gan fod o'n credu ei bod efo syniadau Rhyddfrydol arbennig. Pan glywodd am ei lofryddiaeth, aeth i Borthmadog i brynu darlun ohono a'i osod ar wal y parlwr lle byddai'r bechgyn yn astudio. Hwyrach, roedd Lloyd George hefyd yn edmygu Lincoln.
O dan ddylanwad Richard meithrinodd Lloyd George ei gredoau Rhyddfrydol ei hun, a'i chwant i fod yn aelod o'r senedd.
Ar ôl cyflwyno'r pensiwn, roedd yn rhaid i Lloyd George, fel canghellor, ei ariannu. Felly cynigodd Gyllideb y Bobl (The People's Budget). Ar ei gopi personol, mae o wedi ysgrifennu; 'To Uncle Lloyd, the real author of the budget. With his pupil's affectionate gratitute.'
Dwi'n ymwybodol mai Lloyd George ddaru wneud yr holl waith, ond dwi'n credu'n gryf bod hyn i gyd yn dod o'r addysg a'r gefnogaeth a gafodd gan ei ewythr. Dysgodd y foeseg o weithio'n galed er mwyn gwneud gwahaniaeth yn y byd.
Pan roedd yn amser i David gadael yr ysgol, byddai Richard Lloyd yn gofyn y cwestiwn Beiblaidd, 'beth fydd y bachgen hwn?' Mewn sawl ffordd, ddaru Richard wireddu ei freuddwydion trwy ei nai, yr un a fyddai wastad yn galw 'my boy'.
Amgueddfa Lloyd George.
Dewch ar daith drwy fwthyn teulu Lloyd George.