Ar ôl ei farwolaeth, casglodd ei ail wraig, Frances, ei holl bapurau i'w harddangos yn y pentref. I gychwyn, roedd yr arddangosfa ym Mhen y Bont cyn i Frances adael y tir presennol er mwyn adeiladu rhywbeth parhaol i gofio ei gŵr. Ar ôl pendroni rhwng llyfrgell neu goleg amaethyddol, penderfynwyd adeiladu amgueddfa, a chafodd ei agor yn 1960.
Yn 1990, adeiladwyd estyniad i gynnwys theatr fach a llyfrgell.
"Roedd rhai o'r llyfrau yn eiddo iddo fo, ac eraill wedi cael eu rhoi i ni gan y cyhoedd," meddai Nest Thomas o adran amgueddfeydd Cyngor sir Gwynedd.
"Mae ei fywyd dal i fod yn bwnc hynod o boblogaidd ac rydym dal i ychwanegu at y casgliad gan fod pobl dal i ysgrifennu am dano."
Mae hanes personol Lloyd George yn cynnwys dau ddigwyddiad gafod effaith ar Brydain, a'r byd.
Un yw hanes y dyn gyntaf i dderbyn pensiwn yng Nghymru, sef Thomas Thomas o Wyddelwern. Caiff ei adnabod fel y gyntaf i dderbyn 'coron Lloyd George', neu pum swllt yr wythnos.
Y mae yna hefyd gopi personol Lloyd Goerge o'r 'People's Budget', wedi ei chyflwyno i'w ewythr.
Er mwyn ariannu'r pensiwn, cyflwynodd Lloyd George, fel y canghellor, y cytundeb yma i Dŷ yr Arglwyddi.
"O'r blaen," meddai Emrys Williams, is-geidwad yn yr amgueddfa, "roedd yr Arglwyddi a'r hawl i bleidleisio yn erbyn unrhyw fesur o'r llywodraeth. Gan fod Lloyd George am roi treth ar dir - a nhw oedd y tirfeddianwyr - roeddent yn poeni eu bod am golli bopeth."
Ar ôl pwysau gan Lloyd George bu bygythiad gan y brenin i greu nifer o Arglwyddi Rhyddfrydol newydd - ac felly ildiodd y tŷ. Fel na all hyn ddigwydd eto, cyflwynodd y Llywodraeth Ryddfrydol 'Ddeddf y Llywodraeth' (Parliament Act) sy'n atal Tŷ'r Arglwyddi rhag rhwystro unrhyw fesur sy'n dod o'r Dŷ Cyffredin.
Hefyd, mae yma gopi personol Lloyd George o gytundeb Versailles.
"Mae gennym ni gopi drafft a roddwyd i'r Almaenwyr ym Mai 1919," meddai Nest. "Newidiodd Versailles Ewrop yn llwyr. Roedd Lloyd George yn credu fod hadau'r Ail Rhyfel Byd yn y cytundeb, gan nad oedd o eisiau bod mor llawdrwm ar yr Almaenwyr."
Mae'n bosib gweld sêl bersonol Lloyd George a ddefnyddiodd i stampio'r ddogfen. "Pan aeth Lloyd George i Baris, anghofiodd fynd a'i sêl," meddai Emrys. "Felly anfonodd Frances, ei wraig, allan i brynu sêl newydd a cherfio'i ynydau arno!"
Mae gan yr amgueddfa hefyd dorch llawryfen (laurel wreath) o'r dathliadau ar ddiwedd y rhyfel.
"Ar ôl ddychwelyd o arwyddo Versailles, gyrrodd Lloyd George gyda'r brenin drwy'r strydoedd," meddai Nest.
"Ddaru rywun lluchio'r torch i fewn i'r car, a dywedodd y brenin wrth Lloyd George i'w gadw.
"Rhoddodd o i Frances, a ddaru hi ei gadw'n ddiogel am flynyddoedd. Mae o'n fregus iawn erbyn hyn."
Oriau agor: Mai; Dydd Llun - Mawrth, Mehefin; Dydd Llun - Sadwrn, Gorffennaf/Medi; dyddiol, Hydref; Llun - Gwener.
Cyfeiriad: Llanystumdwy, Criccieth, Gwynedd LL52 0SH
Rhif ffôn: 01766 522071 Mwy am ysbrydoliaeth David; Richard Lloyd.
Dewch ar daith drwy fwthyn teulu Lloyd George.