Ddaru ni ddim darganfod arwyddocâd yr hen ywen yma tan Mai 1995. Daeth dyn i'r tŷ yn cyflwyno ei hun fel John Hand o Gaergrawnt. Roedd o'n digwydd bod mewn cynhadledd coedwigaeth yn Ninbych ac roedd rhywun wedi dweud wrtho fod yna hen ywen yn Nantglyn. Llyncodd ei beint ac off a fo, mond i ddarganfod fod yna un llawer hun yng Ngwytherin.
Ond fa'na, dywedodd rhywun fod 'na un hynach eto yma yn Llangernyw, a phan gyrhaeddodd y pentref cafodd fraw.
Dywedodd wrtha'i, 'you've got a very old yew tree, probably 4,000 years old.' 'Will you repeat yourself,' dywedais i, 'That's before Christ'.
A dyna fo felly yn cysylltu efo'r botanegwr, David Bellamy, ac mae gennym ni dystysgrif ganddo yn yr eglwys yn cadarnhau ei bod hi mor hen.
Doedd yr offeiriad byth wedi meddwl ei bod hi mor hen, ac wedi llifo rhai o'i changhennau i ffwrdd i osod tanc paraffin er mwyn cynhesu'r eglwys! Roedd y tanc yn rhydu ac roedd felly yn rhaid i ni symud mor gyflym â phosib rhag ofn i'r paraffin dianc, socian i mewn i'r gwreiddiau a lladd yr ywen. Mi ddaru ni lwyddo cal grant i dalu am symud y tanc oddi wrthi i'w chadw'n saff.
Mae'n anhygoel bod cenedlaethau wedi mynd heibio heb i neb sylwi ar ei harwyddocâd. Mae 'na ywen hynach yn yr Alban, ond dwi'n deall ei bod hi'n edwino, ac mae un ni dal i fod yn fytholwyrdd.
Dwi'n siŵr bod mwy yn dod i weld y goeden na'r eglwys ei hun, ac mae gan honno ddigon o hanes!
Efallai bod y tir lle saf y goeden wastad wedi bod yn sanctaidd. Cyn i'r wlad gael ei gristioneiddio, roeddent mwy na thebyg yn addoli hen goed fel yr ywen. Yna, byddent yn codi eglwys ar dir oedd gynt yn bwysig i'r Paganiaid fel arwydd o fuddugoliaeth.
Mae o sicr yn hen eglwys gan fod yna cofnodion yn mynd yn ôl i 1520 ac mae yna gawg yn y wal lle roeddent yn cadw dŵr sanctaidd ac yn ymgroesi eu hunain. Mae hyn yn awgrymu felly mai eglwys Babyddol oedd hi ar ryw bryd.
Mae yna hefyd hen, hen gerrig oedd wedi cynnal cromlech ar ryw bryd, sy'n dangos eto pa mor hen yw'r lle sanctaidd yma.
Mae'r ffont bedyddio yn ddiddorol hefyd. Mae hi wedi gwisgo ar un ochr yn ofnadwy. Mae rhai yn dweud bod hyn achos fod y cigyddion o'r ffeiriau yn y fynwent yn hogi eu cyllyll arni, ac eraill bod y Rhufeiniaid yn hogi eu cleddyfau nhw
arni.
Mae enw'r Eglwys yn anarferol, hefyd. Mae'r pentref yma yn wahanol i nifer o Lanoedd Cymru gan fod yr eglwys wedi ei chysegru i Sant Digain, mab saint o Gernyw. Ond nid Llandigain yw'r pentref. Felly mae'r eglwys wedi ei mabwysiadu yn enw'r mab, a'r cwm yn enw'r tad.
Felly yn 1995, ddaru ni drefnu dathliad ym mynwent yr eglwys. Roedd 'na blant lleol yn dawnsio o amgylch yr hen ywen, rhywun yn canu'r delyn a bardd lleol wedi cyfansoddi cywydd teyrnged i'r goeden. Mae profiadau sy' werth ei cael gwerth ei canu hefyd, neu bydd cenhedlaeth yn eu colli.
John Huws