Un sy'n cofio'r diwrnod agor yn 1934 yw John Huws, gwirfoddolwr sy'n croesawu a thywys ymwelwyr o amgylch yr hen dŷ a'r pentref. Rhieni John oedd gofalwyr cyntaf yr amgueddfa a chafodd ei eni yn yr un hen lofft yn y tŷ lle safodd i wylio Lloyd George yn y seremoni agor pan roedd yn ddeng mlwydd oed.
"Pentref bach oedd Llangernyw adeg yna," meddai John. "Ond daeth bron i bedair mil o bobl i agoriad yr amgueddfa. Mi ges i 'bird's eye view' o hen lofft taid a nain Syr Henry wrth i mi edrych lawr ar y dorf, a'r plant ysgol yn canu ei hoff emyn, O Iesu Mawr.
"Pan welais i'r hen Lloyd George yn dŵad efo'i wallt gwyn fel bondo dros ei wegil dwi'n cofio dweud wrth mam bod o'n debyg i un o ddisgyblion Crist, er dwi ddim yn siŵr p'run!
Tra'n Brif Weinidog, roedd Lloyd George wedi cynghori sawl gwaith efo Syr Henry Jones ar faterion addysg, yn enwedig am y dreth o geiniog i sefydlu ysgolion uwchradd gan nad oedd Henry am i neb orfod ymladd gymaint am addysg fel y gwnaeth o.
Ganed Henry Jones, neu Harri Cwm yn Llangernyw yn 1852 yn fab i'r crydd. Aeth i'r ysgol leol, ond cymerodd yn erbyn y prifathro oedd, yn ei farn o, yn ffafrio plant yr eglwys dros y capel. Roedd o hefyd yn credu mewn defnyddio'r Welsh Not. Byddai'r plentyn oedd efo'r darn o bren ar ddiwedd y dydd, oherwydd iddo siarad Gymraeg yn yr ysgol, yn cael ei gosbi gyda'r gansen.
Mae pren y Welsh Not, bysai Harri Cwm efallai wedi orfod ei gario, i'w weld yn yr amgueddfa.
"Felly mi adawodd ysgol Llangernyw yn 12 mlwydd oed ac eistedd wrth fainc y crydd yn ymyl ei dad," meddai John. "Mae'r hen weithdy dal yma, llawn yr hen offer; y mesurydd traed a'r hen ffedog dyllog a'r gwely yn y gornel."
Nid oedd yn arferol cael gwely mewn gweithdy, ond roedd Harri Cwm yn benderfynol o barhau efo'i addysg. "Byddai yn gweithio o wyth y bore i wyth y nos, mynd i'w wely yn y gweithdy nes i blismon y pentref cnocio ar y ffenestr am ryw un o'r gloch y bore, ac yn astudio drwy'r nos," Meddai John. "Dwi'n edrych ar y gweithdy fel rhyw fath o ysgol uwchradd, oblegid yno fuo fo'n astudio."
Daeth Mrs Roxborough o Gaer Llo i glywed am ei draethodau ac adroddiadau mewn eisteddfodau lleol. Cafodd fenthyg llyfrau ganddi cyn cyfarfod a John Price, prifathro'r ysgol gyfagos ym Mhandy Tudur.
"Cododd calon Harri ar ôl y sgwrs," meddai John. "Nid oedd John Price yn defnyddio'r Welsh Not cymaint a gwnaethant gytundeb; bod Harri'n mynd i'r ysgol dridiau'r wsnos a gweithio'r gweddill i dalu am ei addysg.
"A dyna'r hogyn yn camu adref llawn llawenydd hyd nes dod at chwarel Ty'n Ddol, lle aeth ar ei liniau, troi'r hen chwarel yn allor, a diolch i Dduw am yr ail gyfle roedd wedi gael."
Aeth ymlaen i ennill ysgoloriaeth i brifysgol Bangor cyn mynd ymlaen i brifysgol Glasgow. Bu yn athro athroniaeth mewn sawl prifysgol cyn dychwelyd i Glasgow ac ennill y gadair yno. "Aeth o fainc y crydd i gadair yr athronwr," meddai John.
"Ond ddaru o ddim anghofio'r graig a fagwyd ohono. Pan ddychwelodd i weld ei gefnder, aeth i'r capel; ei ymddangosiad gyntaf fel Syr Henry. Galwodd ei hen ffrind, John Elis - Elis y Twlc - o'r set fawr, "dewch 'mlaen, Syr Henry,' 'Dim diolch', meddai o. Yna, galwodd, 'dewch 'mlaen, Doctor Henry,' ond ddaru o ddim symud. Wedyn dywedodd Elis Twlc, 'tyrd yn dy flaen, Harri Cwm', a cerddodd i lawr a gorthrymu gweddi efo'i hen gyfeillion."
Yn ogystal â dathlu bywyd Syr Henry Jones, mae yna yurt yng ngardd yr amgueddfa sy'n gynnig gweithgareddau ar gyfer y gymuned. "Nid ydym yn hoffi meddwl am amgueddfa fel rhywbeth sy'n edrych ar y gorffennol, ond rhywbeth sy'n fyw yn y gymuned," meddai Eleri Wyn, y swyddog datblygu. "Rydym yn cynnal gweithgareddau celf, creu basgedi, sesiynau adrodd straeon a mwy yn ein yurt."
Mae'r clwb garddio lleol hefyd yn tyfu llysiau a blodau o gyfnod teulu Harri Cwm ac yn ei gwerthu i'r Stag, y tafarn cyfagos.
Oriau agor: 1 Mai - 30 Medi, Dydd Mawrth - Gwener a gwyliau'r banc, 10.30 - 13.00 a 14.00 - 17.00. Sadwrn a Sul, 14.00 - 17.00.
Cyfeiriad: Y Cwm, Llangernyw, Abergele, LL22 8PR
Rhif ffôn: 01745 860630
Taith luniau o Amgueddfa Syr Henry Jones.