Un o arlunwyr mwyaf creadigol Cymru
"Mi fyddwn i'n disgrifio fy ngwaith fel darlunio yn hytrach na pheintio, hyd yn oed pan rwy'n defnyddio paent i wneud marciau. Mae'r gwaith yn defnyddio symbol i ddangos elfennau gwrthgyferbyniol mewn bywyd, sydd er hynny yn gyd-ddibynnol. Yn y bôn, mae a wnelo fy ngwaith â deuoliaeth."
Mae Iwan Bala wedi sefydlu ei hun fel un o'r prif artistiaid creadigol sy'n gweithio yng Nghymru heddiw.
Fe'i ganwyd yn y Sarnau ger y Bala ond fe symudodd y teulu yn ddiweddarach i Wyddelwern pan oedd Iwan yn saith oed.
Erbyn iddo gyrraedd oed ysgol uwchrwadd roedd ganddo ddewis naill a'i teithio i Rhuthun neu i'r Bala. Ei ddewis o oedd mynd i'r Bala ac yno daeth dan ddylanwad athro celf arbennig iawn, Glyn Baines. Fe gynhyrchodd Adran Gelf yr ysgol hon sawl artist arall yn ogystal ag Iwan gan gynnwys Catrin Williams a'r gof Angharad Jones.
Fe ddechreuodd Iwan ar drywydd gwahanol iawn yn y Coleg yn Aberystwyth pan gofrestrodd i wneud gradd mewn daearyddiaeth ond buan iawn y dychwelodd at ei gariad cyntaf, celf, a chwblhau gradd mewn celfyddyd gain yng Ngholeg Celf Caerdydd yn 1993.
Ers hynny, mae wedi arddangos dros y byd ac ennill sawl comisiwn er enghraifft yn Simbabwe, i Ffilm Cymru ac i greu Wal i Ewrop yng Nghanolfan Gelf Cymru, Caerdydd. Mae hefyd wedi ennill sawl gwobr gan gynnwys Medal Aur yr Eisteddfod Genedlaethol am Gelfyddyd Gain yn 1998 a Medal Owain Glyndwr am ei gyfraniad nodedig i'r celfyddydau yng Nghymru .
Mae wedi cyhoeddi nifer o lyfrau ac erthyglau gan gynnwys:
Darllen Delweddau (Gwasg Carreg Gwalch)Cyfres o draethodau a gomisiynwyd gan Planet (1998)Appropriate Behaviour (1997 Planet)Welsh Painters Talking (1997 Seren)Welsh Art Goes International (1996 Planet)Intimate Portraits (1995 Seren)Mae Iwan yn gweithio'n rhan amser bellach i Cywaith Cymru sy'n ceisio hybu'r celfyddydau yn y gymuned. Mae enghreifftiau o'i waith i'w gweld yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Caerdydd, yn y Tabernacl, Machynlleth ac yn Amgueddfa'r Imperial yn Llundain.
Mae'n briod a chanddo dri o blant ac mae'n byw yng Nghaerdydd ers 1974.