Penderfynodd y beirniaid fod 12 cystadleuydd yn deilwng o wobr yn y categori Gerddi Preifat yn 2005. Roedd eu gerddi'n amrywio o lecynnau bychan tlws i stadau â choedlannau a glannau afon îr â chyfoeth o fywyd gwyllt. Cafodd saith cystadleuydd glod uchel a barnwyd bod y pump arall yn haeddu gwobr. Roedd safon eithriadol uchel y gystadleuaeth eleni yn golygu ei bod yn anodd iawn i'r beirniaid wahaniaethu rhwng tair gardd, oll yng nghyffiniau Caernarfon, felly dyfarnwyd gwobr aur i'r dair ohonynt ynghyd â gwobr gydradd gyntaf: Mr a Mrs Black, Fferm Gwernoer, Nantlle; Sarah Edgar a Gerry Downing, Tan Felin Wen, Pontrug; a Jennifer Osborne, Foxbrush, y Felinheli.
Rhoddwyd yr ail wobr i Michael Hodges a Sara Lewis, Plas Gwyn, Trefriw, a'r drydedd i Paul Lewis a Ruth Cresswell, Parc Cottage, Ysbyty Ifan.
Aeth y wobr gyntaf am Erddi Ysgolion i Ysgol San Siôr, Llandudno, yr ail i Ysgol y Garreg, Llanfrothen, a'r drydedd i Ysgol Tudweiliog, Pen Llŷn.
Gwesty Bryn Elltyd, Tanygrisiau, gipiodd y wobr gyntaf yn y categori Gerddi Busnes, gyda John Braddock Convalescent Centre, Hen Golwyn, yn mynd â'r ail a Caban Cyf., Brynrefail, yn cipio'r drydedd wobr.
Yn y categori Gerddi Cymunedol, Ffederasiwn Amgylcheddol Hen Golwyn ddaeth i'r brig gyda Gerddi'r Deillion, Eden Hall, Penmaenmawr a Chyfeillion Maes Chwarae Pentre Du, Betws-y-coed, yn dod yn ail a thrydydd.
Meddai'r beirniaid: "Ers tro byd, bu ein gerddi'n datblygu'n noddfeydd - wrth i'r llanw o unffurfiaeth foddi amrywiaeth naturiol cefn gwlad, rydym yn troi fwy fwy at ein gerddi fel ynysoedd sy'n gyfoethog mewn bioamrywiaeth. Mae'r gerddi buddugol hyn yn dangos yn glir pa fath o baradwys y gallwn ei chreu - ar gyfer bywyd gwyllt yn ogystal ag ar ein cyfer ni ein hunain."
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch ag Anna Williams ym Mharc Cenedlaethol Eryri ar 01766 772507.