BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Gwyliau

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Sut i oroesi Wakestock
Mwy o gyngor ar fywyd yn Wakestock.
Cai Hughes

Unrhyw gyngor am gampio yn yr ŵyl?

Arfon Jones
: Ewch a dillad sbâr ac yn sicr wellingtons rhag ofn iddi fwrw eto.

Huw Stephens: Campiwch yn y cysgod gan fod o'n amhosib cysgu mewn pabell sydd yn yr haul. Os mae'n fwdlyd, cadwch eich wellies tu allan i'r babell a pheidiwch â chodi'r babell ger y llwybr neu mi fydd pawb yn syrthio dros eich rhaffau.

Meilyr Gwynedd: Roeddem yn campio yn y lle neis tu cefn i'r llwyfan yn 2006 - er ddaru ni ddim sylwi ein bod yn cael gwneud hynny i gychwyn a ddaru ni treulio oriau yn chwilio am rywle i godi'r babell!

Cai Hughes: Ewch a wellies, digon o gwrw a cheisiwch beidio â mynd ar goll yn y maes pebyll, yn enwedig gyda'r nos!

Beth am eich hoff fwyd ar y maes?

Huw Stephens
: Sudd ffrwythau a byrgar!

Cai Hughes: Yr unig beth ddwi'n cofio am y bwyd yw'r dyn o'r fan byrgars oedd dal i goginio am dri o'r gloch y bore, er iddo fod 'bach' wedi meddwi!

Arfon Jones: Ellwch chi ddim mynd yn rong gyda thaten bob a bîns.

Beth ddylech chi ddod efo chi?

Huw Stephens
: Wet wipes, papur toiled, eli haul, dŵr, dim byd drud fel laptop, digon o arian ac amserlen o be' sy' mlaen.

Arfon Jones: Arian, ffon symudol a gwên!

SibrydionMeilyr Gwynedd: Yr agwedd iawn! Os mae'r haul allan, mi gewch chi ddiod ac ymlacio - grêt. Mae gwyliau yn y glaw yn boen - dwi wedi bod dros fy ngliniau yn y mwd yn Glastonbury o'r blaen, ond maen nhw dal yn hŵyl.

Cai Hughes: Eleni, dwi am ddod a fy nghwch efo fi a mynd a fo allan i wylio'r cystadlu o'r môr.

Beth ydych am ei wisgo?

Huw Stephens
: Sandals a sbectol haul, dwi'n gobeithio! Efallai siorts hefyd - efallai!

Arfon Jones: Trywsus combat trichwarter, crys-t, hwdi a het beany.

Lynsey Doel: Gwisgwch drywsus byr. Os yw'n heulog, gwych - os yw'n bwrw, gellwch ei stwffio i mewn i'ch wellingtons heb drafferth - nid oes dim gwaeth na throwsus hir gyda gwaelodion wlyb!

Beth na ddylech chi wisgo?
Huw Stephens: Dillad designer neu het wirion.

Arfon Jones: Unrhyw beth gwyn, crys a thei neu fflip-fflops.

Y lle orau i ddianc o'r dathlu?

Huw Stephens
: O dan goeden.

Arfon Jones: Traeth Abersoch.

Cai Hughes: Mae rhai ffrindiau i mi jest yn mynd i weld y sgilfyrddio, ac yn campio yn Abersoch i ffwrdd o'r gerddoriaeth. Eleni mi fydd y cystadlu yn cychwyn yn gynnar oherwydd amser y llanw, felly mi fydd yn anodd i chi godi mewn pryd - yn enwedig os ydych wedi bod yn yfed y noson cynt!

Mwy am Wakestock...


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy