BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Gwyliau

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Sut i oroesi Wakestock
Mwy o gyngor ar fywyd yn Wakestock.
Arfon Jones yn mwynhau Wakestock

Beth am y sgilfyrddio?

Cai Hughes: Mae barnwyr y sgilfyrddio yn edrych am yr un efo'r dechneg orau. Gellid cael sgôr uchel am lanio ar ochr arall yr ôl siâp 'v' a welwch yn y dŵr y tu ôl i'r cwch. Hefyd, mae glanio'n ddall - hynny yw, gyda'r rhaff y tu ôl i chi - yn beth anodd iawn i'w wneud hefyd.

Ydy Pwllheli yn lle da ar gyfer sgilfyrddio?

Matt Crowhurst: Mae o wastad yn balans rhwng dewis y lleoliad gorau ar gyfer y rhai sy'n gwylio a dŵr da i'r sgilfyrddwyr. Mae Pwllheli yn wych gan fod y llwybr ger y môr mor hir â chwrs y cychod wrth iddynt dynnu'r sgilfyrddwyr i fyny ac i lawr y bae, felly mi gewch olygfa wych o'r cystadlu.

Unrhyw gyngor ar gyfer rhai sydd heb fod i Wakestock o'r blaen?

Huw Stephens: Ewch i weld bandiau nad ydych wedi clywed am i brofi rhywbeth newydd. Y bandiau sy' mlaen yng nghynt yn y diwrnod yw sêr y dyfodol, felly ewch i'w cefnogi.

Cymerwch sylw i'r rhaglen fel nad ydych yn colli dim.

Cai Hughes: Yn ôl criw o fy ffrindiau, mae'n syniad cerdded i ffwrdd i'r dde, o amgylch y marina ym Mhwllheli, ac eistedd ar y glaswellt i weld y sgilfyrddio. Mae yna llai o wylwyr yna a chewch olygfa wych o'r cystadlu.

Mae yna digon o fysiau yn mynd o brif faes yr ŵyl i'r sgilfyrddio, felly peidiwch â cholli allan ar elfen yma o wakestock - mae'n wych.

Ffrind Arfon, Carwyn, ym mwd Wakestock Matt Crowhurst: Mae'n werth dod i lawr i'r traeth i fwynhau'r sgilfyrddio. Ond os nad ydych am adael y maes, dewch i weld y sgilfyrddio mewn dau bwll enfawr yna. Bydd y reidwyr yn cael eu tynnu trwy'r dŵr gan fraich fecanyddol enfawr - mae'n wych i wylio!

Beth ydych yn edrych 'mlaen am fwyaf?

Huw Stephens: Mae'r Mystery Jets a Funeral for a Friend yn wych yn fyw. Bydd yn dda gweld Duffy yn chwarae ger Nefyn hefyd.

Cai Hughes: Pan roeddwn yn Florida, clywais fod sawl sgilfyrddiwr enwog am ddod draw i Wakestock eleni, felly mi fydd y cystadlu yn dda iawn.

Matt Crowhurst: Un sgilfyrddiwr i gadw llygad allan am eleni yw Ciryl Cornaro o'r Swistir. Mae o'n dalent enfawr.

Lynsey Doel: Gwneud lot o arian! Mae'r ffaith ei fod yn ŵyl tri diwrnod eleni yn dda iawn i ni gan ei bod yn fach o siwrne i gyrraedd Pen Llŷn. Mae gen i hefyd teimlad da am y tywydd eleni...

Ydy o'n addas ar gyfer plant?

Lynsey Doel: Nid yw'r maes yn addas, na.

Cai Hughes: Mae gwylio'r sgilfyrddio yn hŵyl i bawb. Os yw'r plant yn hoffi'r sgilfyrddio, mae croeso iddynt gael blas arno tra'n eithaf ifanc. Gan fod plant mor ysgafn, mae'n bosib iddynt brofi sgilfyrddio heb fynd yn gyflym o gwbl. Ddaru lawer o'r rhai proffesiynol cychwyn yn ifanc, fel Shane Bonifay, a gychwynnodd pan roedd yn bump!

Anfonwch eich lluniau chi o Wakestock i ni.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy