BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Gwyliau

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

DJ Huw StephensSut i oroesi Wakestock?
Sut le yw Wakestock? Dyma weithwyr, sgilfyrddwyr a ffans o'r gerddoriaeth i rannu eu profiadau o'r ŵyl efo ni. Cofiwch rannu eich sylwadau chi am Wakestock gyda ni.

Beth yw uchafbwyntiau Wakestocks y gorffennol?

Huw Stephens, DJ Radio 1: Roedd mynd i fy Wakestock gyntaf yn agoriad llygad i mi - nid oeddwn wedi gweld chwaraeon a cherddoriaeth yn yr un ŵyl o'r blaen.

Meilyr Gwynedd o'r Sibrydion: Roedd yn heulog iawn pan ddaru ni chwarae yna am y tro gyntaf yn 2006. Roeddem yn chwarae ar y prif lwyfan wrth i bawb dod yn ôl o'r sgilfyrddio ac roedd yn wych. Ond y peth gorau am Wakestock yw'r olygfa. Mae sefyll ar y llwyfan, yn edrych allan dros Pen Llŷn ar ddiwrnod o haf yn ffantastig.

Cai Hughes o H2O Wakeboard Wales, Porthaethwy: Gweld Nick Davies yn sgilfyrddio - mae o'n obaith da o Brydain am y dyfodol. Ddaru o allu gwneud troad 1080 yn 2007 - un nad yw llawer o'r rhai proffesiynol yn gallu ei wneud.

Abersoch yw canolbwynt y byd sgilfyrddio ym Mhrydain felly mae'n wych gweld y pros i gyd yma.

Matt Crowbridge, sgilfyrddiwr proffesiynol ac MC y cystadlu: Mi wnes i ddod yn ail yn y gystadleuaeth sgilfyrddio yn 2003, 'roedd yn wych. Dwi dal i gystadlu, a dwi'n sylwebu hefyd felly dwi'n brysur iawn!

Fel yr MC, dwi hefyd yn cael yr anrhydedd o wobrwyo'r cystadleuwyr ar brif lwyfan yr ŵyl cyn i'r prif fand ddod ymlaen. Mae hyn yn gyfle gwych i'r sgilfyrddwyr cael clod gan y dorf, ac i'r ddwy elfen o'r ŵyl - chwaraeon a cherddoriaeth - ddod at ei gilydd.

Lynsey Doel Lynsey Doel o stondin pizza: Gweld y bandiau, mwy na dim. Rydym mewn lleoliad gwych, felly hyd yn oed os ydym yn gweithio, mae dal yn bosib mwynhau be sy'n mynd ymlaen ar y llwyfan.

Rydym yn coginio'r pizza mewn trelar, felly mae'n ddigon hawdd - byddem yn gyrru i'r maes, gwneud i'r trelar edrych yn ddel ac agor! Dwi'n hoff iawn o Wakestock gan ein bod efo digon o amser i baratoi ac ymlacio; cael barbiciw, chwarae ffrisbi a mwynhau'r olygfa cyn i bawb cyrraedd.

Arfon Jones o Drefor, un sy'n mynd i'r ŵyl am hŵyl: Roedd Feeder yn 2007 yn awsome.

Unrhyw bethau wedi mynd o'i le yn ystod yr ŵyl?

Meilyr Gwynedd
: Roeddem newydd orffen trip i'r Iwerddon diwrnod yr ŵyl, ac roedd yn rhaid i ni dal y cwch am saith o'r gloch y bore. Ond ddaru neb deffro tan 6.40! Roedd o'n wyrth ein bod wedi cyrraedd Wakestock mewn amser i berfformio!

Matt Crowbridge: Y lleiaf dwi'n sôn am 2007 (blwyddyn y mwd), y gwella bydd hi! Ond dwi wedi dod yn agos i frifo fy hun wrth sgilfyrddio! Maen nhw'n adeiladu rhwystrau enfawr ar gyfer y sgilfyrddio yn y môr ger Pwllheli ac mae cryn dipyn o'r reidwyr wedi torri eu byrddau wrth crasho mewn iddynt! Ond mae o 'gyd yn rhan o'r gystadlu - mae'r dorf yn hoffi bach o berygl!

Gan fod Bae Pwllheli efo llanw, maen nhw'n adeiladu'r rhwystrau yma pan fo'r môr allan felly mae o wastad yn well i gystadlu hanner ffordd trwy'r gystadleuaeth. Mae'r rhai sy'n mynd yn gyntaf neu'n olaf gorfod wynebu'r rhwystrau ar eu uchaf yn y dŵr.

Lynsey Doel: Blwyddyn ddiwethaf, roedd y tywydd yn ein herbyn 'roedd yn bechod gan mai dyma un o'r gwyliau prysuraf i ni.

Arfon Jones: Mi wnes i golli fy waled a fy ffrind yn y dorf unwaith, felly roedd yn rhaid i mi gerdded o Bwllheli adref i Drefor - ffordd dda o sobri fyny!

Mwy am Wakestock...


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy