BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfodau Lleol

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Yr Hen Ysgol, Marian-GlasEisteddfod Gadeiriol Marian-Glas
Hen Ysgol Marian-Glas
12 Hydref 2007
Ysgrifennydd: Llinos Williams (01248) 853002.
Eisteddfod ieuenctid i rai dan 19 ydy'r eisteddfod hon bellach. Fe'i cynhelir ar nos Wener ynghanol Hydref.

Cefndir
Sefydlwyd Eisteddfod Gadeiriol Marian-Glas yn 1924 dan nawdd Capel Seion y Bedyddwyr, Llanfair Mathafarn Eithaf. Fe'i cynhelid ar hyd y blynyddoedd yn Hen Ysgol Marian-Glas ar Ddydd Gŵyl Dewi, ond ers pedair blynedd bellach fei cynhelir ym mis Hydref i osgoi Eisteddfodau Cylch yr Urdd.

Yn dilyn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn 1999 fe benderfynodd Eglwys Seion, oherwydd prinder adnoddau, roi cynnig i bobl yr ardal gynnal yr eisteddfod ac felly y bu. Cynhaliwyd eisteddfod gyntaf yr ail gyfnod ar 9 Hydref, 1999.

Cofeb i Hugh Griffith ar fur yr Hen YsgolAr fur allanol yr Hen Ysgol mae cofeb i'r diweddar Hugh Griffith, yr actor a gafodd Oscar am ei bortread o'r ceffylwr o Arab yn y ffilm Ben Hur. Bu chwaer Huw Griffith, Elen Roger Jones, yn gefnogol iawn i'r eisteddfod ar hyd ei hoes.

Fe roddodd Eisteddfod Marian-Glas wasanaeth teilwng i'r ardal a'r bröydd cyfagos am dros dri chwarter canrif. Bu'r gweinidogion, y Parchedigion William Price, Robert Jones, Dafydd G Davies ac E George Rees, yn eu tro, yn hynod gefnogol i'r Eisteddfod.

Bu llawer o gerddorion ac adroddwyr adnabyddus yn meithrin eu dawn ar ei llwyfan, yn cynnwys Charles Williams, Tony ac Aloma, Elwyn Hughes, Margaret Williams, Tom Bryniog, Leslie Williams, Elisabeth a Nora, Anwen Williams, Gwyn Hughes Jones, Sharon Evans a llawer mwy.

Mae sôn hyd heddiw am yr encôr a roddwyd i Charles Williams mewn cystadleuaeth wedi iddo adrodd Jên Ni. Bu Ap Thelwal (John Roberts) yn arweinydd pur enwog ar ei llwyfan am lawer blwyddyn ac fe'i dilynwyd gan Edward Williams, Llangefni, yntau am gyfnod pur faith ac Owen Parry, Llangwyllog hefyd.

Gwahoddwyd beirniaid craffaf ein cenedl i feirniadu'r cystadlaethau dros y blynyddoedd a rhoddodd un ysgrifennydd arbennig, Owen Idris Thomas, gyfnod hir o wasanaeth gwerthfawr i'r eisteddfod.

Aeth amryw o feirdd â enillodd gadair Marian-Glas, fel Selwyn Griffiths, ymlaen i ennill y gadair neu'r goron genedlaethol.

Dau o'r cyfeilyddion amlycaf oedd Edward Owen, Marian-Glas a Davy Jones, Llanfairfechan. Ymysg Llywyddion anrhydeddus yr eisteddfod fe fu Megan Lloyd George, Cledwyn Hughes, Ieuan Wyn Jones, John Williams Hughes, Huw Griffith ac Elen Roger Jones.

Yn y cyfnod cyntaf cynhelid tri chyfarfod, un i'r plant a'r bobl ifanc ar y nos Wener a dau gyfarfod ar ddydd Sadwrn, gyda theulu croesawgar Tŷ'r Ysgol yn gofalu am luniaeth i bawb, cyn codi'r gegin yn ddiweddar.

Erbyn hyn mae'r pwyllgor hefyd ar ei newydd wedd. Ymhyfrydir yn y gefnogaeth a geir gan y bobl ieuainc, ac yn enwedig yn yr arddangosfa ffyniannus a lliwgar a geir o waith llaw y plant ar bobl ieuainc.

Dewi Jones

  • Cysylltwch i ddiweddaru tudalen eich eisteddfod os gwelwch yn dda.

  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!
    Anfonwch fanylion eich 'steddfod leol neu'ch atgofion am eisteddfota aton ni.

    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Wrecsam):

    Sylw:




    Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.



    0
    C20
    Pobol y Cwm0
    Learn Welsh0
    BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy