 |
 | Dyma Olwen Roberts yn adrodd hanes Eisteddfod Marian-Glas eleni a gynhaliwyd ar 8 a 9 Hydref, 2004.
Cawsom gefnogaeth wych ar gyfer eisteddfod y plant a gynhaliwyd ar y nos Wener. Nid oes gen y pentref ei hysgol gynradd ei hun felly rydym yn dibynnu ar ysgolion cyfagos i gefnogi'r cystadlu, ac ni chawsom ein siomi. Daeth plant o bob rhan o'r ynys - a phlant dros y bont - i gymryd rhan.
Enillodd Kimberley Rowlands o Langefni y wobr am y perfformiad gorau - bu'n cystadlu'n brysur yn y cystadlaethau canu, piano ac ag offerynnau eraill.
Roedd llai o bobl i'w gweld ar y nos Sadwrn, gyda Lleisiau Llannerch yn unig yn cystadlu fel côr. Serch hynny, cawsom deilyngdod yng nghystadleuaeth y gadair, a gafodd ei llunio gan grefftwyr o Ganolfan Môn. Eirlys Williams o Dulas oedd yr enillydd. Enillodd Ilid Price Humphries o Fodorgan wobr goffa Mair Mathafarn i'r gwaith llenyddol gorau am ei stori fer.
Cynhelir yr eisteddfod ar Hydref 14 a 15 y flwyddyn nesaf, sef ail benwythnos y mis.
Nôl i brif dudalen yr eisteddfod
 |  |  |  |
|

|
|