BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfodau Lleol

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

O'r Ffôr i Ffrainc - Eisteddfod 2004

Fe drodd Eisteddfod Gadeiriol y Ffôr yn eisteddfod ryngwladol am noson eleni a hynny gyda help ffôn symudol a phrifardd cymwynasgar.

Er na allai bardd buddugol y gadair, Mr Geraint Roberts o Lanelli, fod yn bresennol yng nghapel Ebeneser ar y 3ydd o Ebrill, fe allodd gymryd rhan yn y seremoni gadeirio.

Eluned Parry, ysgrifenyddes yr eisteddfod, sydd â'r hanes:

"Fe grewyd hanes yn Eisteddfod y Ffôr eleni pan enillwyd y gadair gan Mr Geraint Roberts, Prifathro Ysgol Gyfun y Strade, Llanelli.

"Cafodd y bardd ei gynrychioli gan ei fab, Llŷr, a hynny am fod y bardd ar bererindod farddonol at fedd Hedd Wyn i Ffrainc.

"Pan ganodd Einir y corn gwlad, roedd ffôn symudol Llŷr ymlaen, a'i dad yn sefyll i gael ei gadeirio yr un pryd yn Ffrainc gan y Prifardd Tudur Dylan Jones. Roedd y seremoni i gyd yn cael ei throsglwyddo dros y ffôn o'r Ffôr i Ffrainc.

"Dywedodd Geraint Lloyd Owen a arweiniai y seremoni fod hyn yn rhywbeth unigryw iawn. Tybed a ddigwyddodd hyn mewn unrhyw eisteddfod o'r blaen? Buasai'n ddiddorol gwybod ymhle a pha bryd?"

Fe dorrwyd record arall yn y gystadleuaeth i bobl ifanc 15 - 25 oed gyda 75 o gyfansoddiadau yn dod i law! Yr enillydd oedd Llinos Dafydd o Landysul (enillydd Cadair yr Ifanc yn Eisteddfod Llanllyfni eleni) gyda Dafydd Hughes a Rhiannon Hughes o Gricieth yn ail a thrydydd. Da gwybod nad yw'r diddordeb ymhlith yr ifainc yn pylu dim!

Ymhlith enillwyr y cystadlaethau agored oedd enillydd cadair Llanllyfni, T Graham Williams o Abertawe. Daeth i'r brig yn y Ffôr yng nghystadleuaeth y Stori Fer.

  • Darllenwch am gefndir Eisteddfod y Ffôr

  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Wrecsam):

    Sylw:




    Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.



    0
    C20
    Pobol y Cwm0
    Learn Welsh0
    BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy