Cefndir Cychwynnodd eisteddfod bentref y Ffôr ym Mhen Llŷn yn 1975. Ar yr achlysur yma, cyhoeddodd y diweddar HR Jones o Ddolgellau, a oedd yn beirniadu'r adrodd, na fyddai fyth yn dychwelyd i Eisteddfod y Ffôr gan ei bod wedi mynd ymlaen mor hir - hyd at dri or gloch y bore!Cynhaliwyd yr eisteddfod yng nghapel y pentref hyd y 1990au. Bu'n rhaid i bawb adael yr adeilad un flwyddyn oherwydd ofnau bod yr adeilad ar dân pan ddechreuodd lenwi efo mwg. Yn ffodus, roedd prifathro Ysgol Bro Plenydd, Mr Geraint Lloyd Owen, cadeirydd y pwyllgor, wrth law i gynnig ganolfan gymdeithasol yr ysgol ar fyr rybudd. Oherwydd mwy o anawsterau gyda'r capel, bu'n rhaid cynnal yr eisteddfod y tu allan i bentref y Ffôr yn y 1990au, pan symudwyd hi heb lawer o rybudd i Neuadd Bentref Chwilog. Wedi hynny, ad-drefnwyd y capel, a chynhelir yr eisteddfod rŵan yn hen festri'r capel, yr ysgoldy, sef Capel Ebenezer bellach. Y saer lleol, Eryl Jones Ty'n Giât, fydd yn llunio'r gadair i'r bardd buddugol bob blwyddyn. Enillwyd un o'i gadeiriau enwocaf, wedi'i llunio o nodau hen organ, gan y Prifardd RO Williams o'r Bala, gynt o ardal Pen Llŷn. Yn 2003 daeth nifer o'r unigolion oedd yn flaenllaw yn yr eisteddfod wreiddiol at ei gilydd. Daeth TJ Williams o Lanrwst yn ôl i feirniadu'r canu, Geraint Lloyd Owen a Gwilym Gruffydd yn Llywyddion ac Eluned Parry yn Ysgrifenyddes yr eisteddfod. Cysylltwch i ddiweddaru tudalen eich eisteddfod os gwelwch yn dda.
 |