| Cyfarfod y bore yn dechrau am 11am a'r hwyr am 6pm. Darperir ymborth yn Caffi Ceunant. Cysylltwch â'r Ysgrifennydd am ragor o wybodaeth. Cefndir Yn 1945 y cynhaliwyd yr eisteddfod gyntaf yng Nghapel Jeriwsalem, Abergynolwyn, wedi'i threfnu gan garfan o wragedd brwdfrydig ac uchelgeisiol. Bu'r eisteddfod yn llwyddiant mawr, ac o hynny mlaen cynhaliwyd hi'n flynyddol, a'i hadnabod fel Eisteddfod Merched Abergynolwyn. Yn ddiweddarach, wedi codi'r Neuadd Bentref yn 1947, yno y cynhaliwyd yr eisteddfod, a daeth i gael ei hadnabod fel Eisteddfod Flynyddol Abergynolwyn. Y mae'r dyddiad cynnal yn sefydlog ar yr ail Sadwrn ym mis Chwefror, ac ystyrir hi yn un o'r eisteddfodau mwyaf llewyrchus yng ngogledd Cymru. Gall ymfalchïo yn y ffaith iddi fod yn feithrinfa i gantorion ac adroddwyr amlwg Cymru, ac yn gyfle i blant lleol sefyll ochr yn ochr â rhai o gystadleuwyr ifanc brwdfrydig ein gwlad. Y mae'r gwobrau ariannol yn sylweddol ynghyd â chwpan arian i'w chipio yn ambell gystadleuaeth. Sicrheir beirniaid safonol ym mhob cystadleuaeth ynghyd â chyfeilydd profiadol ar alwad yr holl gantorion. Y mae diddordeb yr ysgol leol yn amlwg yng nghyfarfod y p'nawn a gwaith mawr gan yr athrawon drwy'r blynyddoedd, ynghyd â diddordeb y rhieni. Hefyd, ffrwyth llafur yr ysgrifenyddion diwyd yw'r eisteddfod. Mawr yw'r ddyled iddynt hwy ac i'r pwyllgor sy'n llafurio yn y dirgel. Gyda chymorth a haelioni grantiau ariannol sylweddol, a charedigrwydd unigolion a'u cyfraniadau, disgwylir gweld yr eisteddfod yn mynd o nerth i nerth er lles diwylliant ein pentref a'n gwlad. Sheila Patterson, Abergynolwyn. Cysylltwch i ddiweddaru tudalen eich eisteddfod os gwelwch yn dda.
 |