BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Gwyliau

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Elin FflurGŵyl Rhuthun
Mis Gorffennaf
Mae'r ŵyl hon fel arfer yn cynnig arlwy ecletig - o gerddoriaeth werin i bop, jazz a'r clasurol.
Yn 2007, cafodd yr ŵyl wythnos o hyd ddiweddglo hwyliog gyda sêr fel Elin Fflur, Y Moniars, Dr Jazz a Joe Le Taxi yn perfformio yn nigwyddiad Dop Dre, ddydd Sadwrn 7, Gorffennaf.

Ers cydweithio gyda Carlotta a'r Moniars, mae Elin Fflur bellach wedi mentro fel perfformwraig unigol, ac mae hi wedi rhyddhau dau albwm, y diweddaraf yw Ysbryd Efnisien.

Roedd cyngherddau gyda'r nos yr ŵyl yn cynnwys perfformiad gan yr amryddawn Côr Glanaethwy, Bangor. Sefydlwyd y côr, a'r ysgol berfformio o'r un enw, gan Cefin a Rhian Roberts, actorion a diddanwyr a sefydlodd Ysgol Glanaethwy yn y 1990au.

Cerddorion ar sgwâr Rhuthun 2005 Cafwyd cerddoriaeth glasurol gyda thriawd chwythbrennau Ensemble Cymru, sydd wedi eu lleoli ym Mangor ac yn hybu cerddoriaeth gan gyfansoddwyr Cymru.

Hefyd yn cydweithio â'r ŵyl unwaith eto roedd Cymdeithas Jazz Gogledd Cymru gyda'r sacsaffonydd tenor Dave O'Higgins yn perfformio gyda Band Bill Coleman a Brian Dee ar yr allweddellau, yng Nghastell Rhuthun.

Am fwy o wybodaeth am Ŵyl Rhuthun a rhestr lawn o'r cyngherddau ewch i'r wefan - mae'r linc ar y dde.

  • Lluniau o ŵyl y gorffennol


  • Lleol i Mi
    Radio Cymru
    Adolygiadau


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy