Yn yr unfed gŵyl ar ddeg (26 Mehefin - 1 Gorffennaf 2006) bu artistiaid o fand prês yr India i Labrinth, Dyfffryn Clwyd yn diddanu, a chantorion clasurol fel Fflur Wyn a'r gantores bop ifanc, Meinir Gwilym yn apelio at bawb. "Gyda chefnogaeth gref gan fusnesau a sefydliadau, rydym yn hynod o falch o allu cynnig arlwy eang o artistiaid i'r gynulleidfa," eglurodd Mike Baines, Cadeirydd yr Ŵyl. "Mae'r amrywiaeth leni yn bendant o apelio at y to hŷn a'r to iau, gyda tocynnau at y cyngerdd clasurol ar nos Fercher, 28 o Fehefin yn gwerthu'n arbennig o dda. Y soprano, Fflur Wyn, Dewi Ellis Jones gyda'i offferyn taro, y marimba, a'r bedwarawd llinynnol o dde Cymru, Celticana fu'n diddanu'r dorf."  Am y tro cyntaf eleni cafwyd Cabaret Celtaidd yn Theatr John Ambrose a dau grŵp gwerin yn perfformio. The Tannahill Weavers o'r Alban a Pentennyn o'r Wyddgrug oedd yn cynrychioli grwpiau gwerin Cymreig. Cafodd cyngerdd ei threfnu yn Eglwys San Pedr ar nos Iau, 29 o Fehefin, gan greu awyrgylch a naws arbennig. Y ddeuawd ifanc, Deian Rowlands ar y delyn, a Nicola Phillips ar y ffliwt, fu'n swyno'r gwrandawyr. Yn benllanw ar y digwyddiadau roedd Top Dre ar ddydd Sadwrn, 1 o Orffennaf, gan ddenu tyrfa fawr. Bu enwau mawr y byd gwerin, jazz, roc a phop yn cynnal chwe awr o gerddoriaeth fyw ar Sgwâr San Pedr, a hynny am ddim.
 |