BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Gwyliau

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Cadi a'r BiliGŵyl Cadi Ha
Bob Calan Mai mae dawnswyr yn llenwi strydoedd Treffynnon i ddathlu hen ŵyl y Cadi Ha sy'n croesawu'r haf ac yn ffarwelio a'r gaeaf.
Gŵyl ddawns â'i gwreiddiau yn nwfn yn Sir y Fflint yw'r Cadi Ha ac mae dros ddwy ganrif o gofnodion o ddynion o gymunedau glofäol gorllewin y sir, yn arbennig y Fflint, Bagillt, Treffynnon, Mostyn a Llanasa, yn gorymdeithio a dawnsio ar ddydd cyntaf Mai.

Chris Bailey, cadeirydd yr ŵyl sydd â hanes y dathliadau yn Nhreffynnon heddiw:

"Ar y bore Sadwrn mae cannoedd o blant ysgol yn cymryd rhan mewn dawnsfeydd gwerin Gymreig efo criw mawr o oedolion.

"Daw ymwelwyr a cherddorion i'r dref o bob rhan o Gymru - diolch i Ddawnswyr Delyn, y tîm lleol o ddawnswyr gwerin Gymreig.

"Rydym hefyd yn cael tîm o du allan i Gymru ac yn y gorffennol wedi croesawu timoedd o Fflandrys, Ynys Manaw, Cernyw a Llydaw.

"Gorymdaith y Cadi Ha yw'r prif ddigwyddiad. Mae pawb yn duo eu hwynebau efo llwch glo er mwyn cuddio o'r diafol.

"Mae cofnod o'r ddawns a chân yn mynd yn ôl i 1815 yn ardal Treffynnon. Roedd y Cadi yn hel pres gyda ladal (ladle)."

Roedd wyth yn dawnsio yn y Cadi Ha gyda dau gymeriad ychwanegol. Y naill oedd Bili'r ffwl, wed'i wisgo mewn du, a'r llall oedd Cadi, dyn wedi'i wisgo fel merch - yn dynodi perffeithrwydd. Ei swyddogaeth oedd sgubo ymaith ysbrydion drwg y gaeaf i baratoi am y gwanwyn, a gynrychiolid gan ddawnsiwr yn cludo cangen. Weithiau âi'r Fari Lwyd efo nhw.

Weithiau aent cyn belled â Dyffrynoedd Clwyd a Chonwy gyda'u wynebau wedi'u duo.

Mae sawl fersiwn o'r geiriau oedd yn cael eu canu, meddai Chris Bailey, yn dibynnu ar y pentref ond dyma rai:

Hwp Ha Wen, Cadi Ha, Morys stowt am yr uchla neidio, Hwp dene fo,
Fy ladal i, a'i ladal o, a'r ladal ges i fenthyg,
Cynffon buwch a chynffon llo,
A chynffon Rhisiart Parri'r go,
Hwp dene fo!

A fi di gwr y rhuban coch,
Neidiaf dros y gafna,
Hwp dene fo!
A Chynffon buwch a chynffon llo,
A chynffon Rhisiart Parri'r go,
Hwp dene fo!"


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

A oes ganddoch chi fwy o hanes neu luniau?
Peidiwch â datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.



Lleol i Mi
Radio Cymru
Eisteddfodau


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy