"Cafodd y côr ei sefydlu ym 1947, pan ddaeth yr hogia oedd yn byw yn Froncysyllte ddychwelyd o'r Rhyfel. "Yn y dyddiau hynny doedd fawr ddim i'w wneud ac felly fe sefydlwyd côr a'r flwyddyn wedyn roedd digon i gystadlu yn Eisteddfod Llangollen. "Nid oedd yn gôr mawr o'i gymharu â heddiw ond fe dyfodd ac ymhen dwy flynedd rwy'n deall roedd rhyw 80 yn aelodau. "Yn y blynyddoedd ers hynny fe gododd aelodaeth y côr i dros gant ac roeddynt yn cystadlu bob blwyddyn yn Llangollen - dyna oedd eu prif beth bob blwyddyn. "Mae'r côr wedi bod yn ffyddlon iawn i Eisteddfod Llangollen a dwi ddim yn cofio'r un flwyddyn lle nad ydym wedi cystadlu yno. "Dros y blynyddoedd rydym wedi gwneud yn dda yno ac wedi ennill ddwywaith. Mae pobl Llangollen yn ein gweld fel y côr lleol. "Rydym yn ymarfer ddwywaith yr wythnos yn Ysgol Acrefair a rhyw 60 sydd yn y côr erbyn hyn. "Mae'r Côr yn gwneud tair cyngerdd y flwyddyn i Dŷ Eos yn Wrecsam ac yn ogystal â Llangollen rydym hefyd yn cystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ond nid bob blwyddyn. "Rydym hefyd wedi teithio dros y môr gan gystadlu ac ennill yn Athen a Malta. Mae'n rhaid i chi fynd i lefydd eraill a cheisio gwneud yn dda yn y fan honno. "Rwyf wedi bod yn aelod o'r côr ers ugain mlynedd ac mae'r cymdeithasu yn bwysig. Rydym yn edrych ymlaen at weld ein gilydd bob wythnos a dysgu darnau newydd. "Rydym wedi recordio CD's o'r blaen ond dim byd mawr "Bu Daniel Glatman o Lundain yn gwrando arnom mewn priodas yn Trefor Hall yn Llangollen y flwyddyn ddiwethaf. "Dyma'n gaddo i ni bryd hynny y byddai'n cael cytundeb recordio i ni hefo Universal i wneud CD. "Tydi hyn ddim y math o beth sydd yn digwydd i gorau meibion ac rydym yn edrych ymlaen at ryddhau'r CD a gobeithio y daw ag ychydig o bleser i bobl."
Denu sylw Hollywood
 |